Newyddion S4C

Argymell gwrthod cynllun concrid dadleuol ger Caernarfon

Gwaith Nwy Caernarfon.jpg

Mae swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd wedi argymell gwrthod cynllun dadleuol i brosesu concrid ger Caernarfon.

Mae'r awdurdod wedi derbyn 130 o lythyrau o wrthwynebiad i'r cynllun yn hen waith brics Seiont ar gyrion y dref.

Gobaith cwmni Jones Bros o Rhuthun ydi sefydlu ardal ailgylchu deunyddiau ar gyfer priddoedd, gwastraff adeiladu a dymchwel, codi adeilad peiriannau ailgylchu, ac offer paratoi concrid parod.

Mae nhw hefyd eisiau sefydlu gorsaf nwy ar yr un safle, ond Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar y cais hwnnw, sydd hefyd wedi ennyn gwrthwynebiad lleol.

Bydd y cais ar gyfer y gwaith prosesu concrid yn cael ei drafod gan gynghorwyr Gwynedd ddydd Lun, ond mewn adroddiad i'r pwyllgor, mae swyddogion yn awgrymu y dylai'r datblygiad gael ei wrthod.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r tri cyngor cymuned agosaf i'r safle - Bontnewydd, Waunfawr a Chaernarfon - a nifer o drigolion lleol wedi mynegi gwrthwynebiad i'r cynllun, gan leisio pryderon am sŵn, traffig, llygredd, a'r effaith ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt.

Mae'r swyddogion yn argymell gwrthod y cais, gan ddweud nad oes digon o wybodaeth am effaith posib sawl agwedd o'r cynllun ar drigolion cyfagos a'r amgylchedd. Mae nhw hefyd yn dweud y byddai'n cael effaith weledol negyddol ar yr ardal. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.