Cyn arlywyddion America yn condemnio marwolaeth Alex Pretti
Mae cyn Arlywydd America, Bill Clinton wedi condemnio'r "golygfeydd ofnadwy" yn America ar ôl i ddyn 37 oed gael ei saethu'n farw gan swyddogion mewnfudo ffederal.
Dywedodd mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol bod yr hyn sydd wedi digwydd yn Minneapolis "ddim yn dderbyniol ac fe ddylai fod wedi ei osgoi."
Mae Barack Obama a'i wraig Michelle hefyd wedi dweud bod yr hyn ddigwyddodd yn "drasiedi" ac y dylai Americanwyr "ddeffro i'r hyn sy'n digwydd, dim ots pa blaid. Yn gynyddol mae ein gwerthoedd craidd yn cael eu tanseilio."
Mae pobl wedi bod yn protestio yn y ddinas a dinasoedd eraill yn y wlad wedi marwolaeth Alex Pretti ddydd Sul. Roedd yn nyrs mewn uned gofal dwys.
Maen nhw yn galw ar y swyddogion Adran Diogelwch Mewnol i adael Minneapolis.
Dyna mae Llywodraethwr y ddinas, Tim Walz hefyd wedi dweud.
Yn ei neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Bill Clinton yn dweud bod y bobl mewn grym wedi "dweud celwydd wrthon ni, wedi dweud wrthon ni i beidio credu'r hyn rydyn ni yn gweld gyda'n llygaid ein hunain ac wedi gwthio tactegau ymosodol a gelyniaethus gan gynnwys ymchwiliadau sydd ar fin digwydd gan awdurdodau lleol."
"Yn ystod ein bywydau, rydyn ni yn wynebu dim ond ychydig o gyfnodau lle mae'r penderfyniadau rydyn ni yn gwneud a'n gweithredoedd yn siapio ein hanes am flynyddoedd i ddod.
"Mae hyn yn un o'r rheiny. Os byddwn ni yn rhoi ein rhyddid i ffwrdd ar ôl 250 o flynyddoedd, efallai na chawn ni nhw byth yn ôl."
Mae'r Arlywydd Trump wedi awgrymu mewn cyfweliad y byddai yn fodlon i'r swyddogion mewnfudo adael yn y pen draw ond dydy o ddim wedi rhoi amserlen pryd.
Ychwanegodd yn y cyfweliad i'r Wall Street Journal bod y swyddogion wedi gwneud "gwaith aruthrol" a bod y weinyddiaeth yn "adolygu popeth" yn sgil marwolaeth Alex Pretti.
Mae gweinyddiaeth Trump wedi disgrifio Pretti fel "terfysgwr domestig".
Ond mae ei deulu wedi dweud mai celwydd yw hynny ac yn ôl AP doedd ganddo ddim record o dor-cyfraith.
Pretti yw'r ail berson i gael ei saethu yn farw yn yr wythnosau diwethaf yn Minneapolis. Cafodd Renee Good ei saethu gan asiant mewnfudo yn y ddinas ar y seithfed o Ionawr.
Prif Lun: Protestiadau ym Minneapolis (Reuters) ac Alex Pretti