Rhai ASau'n beirniadu penderfyniad Llafur i beidio gadael i Andy Burnham sefyll

Andy Burnham

Mae rhai ASau Llafur wedi beirniadu penderfyniad eu plaid i beidio gadael i Andy Burnham sefyll mewn is-etholiad ar gyfer Senedd San Steffan.

Dros y penwythnos fe ddywedodd Burnham y byddai yn hoffi sefyll yn is-etholiad Gorton a Denton, wedi i'r aelod presennol, Andrew Gwynne gyhoeddi ei fod yn bwriadu camu lawr am resymau iechyd.

Ond ddydd Sul, fe benderfynodd Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y blaid Lafur i'w atal rhag gwneud.

Mewn neges ar X fe ddywedodd Burnham ei fod yn "siomedig" a bod y penderfyniad wedi ei rhoi i'r wasg cyn iddo fo gael gwybod.

Mae hynny meddai, "yn dweud popeth wrthoch chi am y ffordd mae'r blaid Lafur yn cael ei rhedeg dyddiau yma. 

"Fe fyddech chi yn meddwl y byddai dros 30 mlynedd o wasanaethu yn cyfri am rywbeth ond yn drist iawn dyw hynny ddim yn wir."

Mae Burnham yn faer ar Fanceinion ond mae'n cael ei weld fel person sydd eisiau herio arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Keir Starmer. I hynny i ddigwydd mae'n rhaid iddo fod yn Aelod Seneddol. 

Teimladau ar y ddwy ochr

Fe ddywedodd y pwyllgor gweithredol eu bod wedi gwrthod gadael i Burnham sefyll er mwyn arbed arian y trethdalwyr am y byddai yn rhaid cynnal etholiad i benodi maer newydd.

Mae'r newyddion wedi rhwygo'r blaid Lafur gyda John McDonnell yn dweud na ddylai Starmer "danbrisio'r teimlad o ddicter y bydd pobl yn teimlo am y penderfyniad ffiaidd yma".

Dywedodd yr AS Rachael Maskell hefyd wrth Radio 4 y dylai'r penderfyniad fod wedi cael ei wneud gan "bobl gyffredin" yr etholaeth. 

Ond mae eraill wedi cefnogi'r pwyllgor gweithredol. 

Yn ôl Ysgrifennydd Llywodraeth Leol y blaid Lafur, Steve Reed mae'r newyddion yn "siomedig i Andy" ond yn "newyddion da i bobl Manceinion am ei fod yn gwneud gwaith mor dda yno fel maer".

Mae Ysgrifennydd yr Alban, Douglas Alexander hefyd wedi dweud wrth y BBC bod atal Burnham wedi golygu bod dim "misoedd o seicodrama" am ddigwydd rŵan.

"I siarad yn blaen, os byddai penderfyniad gwahanol wedi ei wneud ddoe, dwi'n meddwl y byddai yna bosibilrwydd o fisoedd o seicodrama: 'pwy sydd mewn, pwy sydd allan, pwy sydd ar i fyny, pwy sydd ar i lawr yn San Steffan. 

"Dwi wir yn credu bod sgyrsiau fel hynny yn rhai mae'r cyhoedd yn casáu." 

Llun: Danny Lawson/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.