O leiaf saith wedi marw wrth i storm eira 'perygl i fywyd' daro'r Unol Daleithiau

Eira yn Washington DC mis Ionawr 2026

Mae o leiaf saith o bobl wedi marw ac 800,000 heb bŵer wrth i storm "perygl i fywyd" daro'r Unol Daleithiau.

Mae ysgolion a ffyrdd ar draws y wlad ar gau ac mae hediadau wedi'u canslo wrth i'r storm ymestyn o Texas i New England, yn ôl y Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol.

Mae NBC News yn adrodd bod o leiaf saith o bobl - dau yn Louisiana, un yn Texas, un yn Kansas a thri yn Tennessee - wedi marw.

Cafodd mwy na 14,400 o hediadau eu canslo ddydd Sul gydag 8,000 arall wedi eu gohirio, yn ôl y wefan FlightAware.

Dyma'r nifer fwyaf o hediadau i gael eu canslo ar unrhyw ddiwrnod ers pandemig Covid-19, meddai'r cwmni dadansoddi awyrennau Cirium.

Y gred yw bod o leiaf 180 miliwn o bobl mewn 37 talaith - mwy na hanner poblogaeth America - wedi'u heffeithio gan y tywydd garw.

"Bydd yr eira a'r iâ yn araf iawn, iawn i doddi ac ni fyddant yn diflannu yn fuan, ac mae hynny'n mynd i rwystro unrhyw ymdrechion adfer," meddai Allison Santorelli, meteorolegydd gyda'r Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol wrth CBS News yn yr Unol Daleithiau.

Erbyn hyn mae bron i hanner o daleithiau'r wlad wedi datgan digwyddiad argyfwng.

Dywedodd Maer Washington, Muriel Bowser: "Rydym yn profi'r storm eira fwyaf mewn degawd yn DC y penwythnos hwn."

Mae llywodraethwr talaith Efrog Newydd, Kathy Hochul, wedi rhybuddio trigolion i aros yn eu cartrefi.

"Dyma'r tywydd oeraf rydyn ni wedi'i weld yn sicr, y storm oeraf rydyn ni wedi'i gweld ers blynyddoedd," meddai.

"Mae rhyw fath o warchae Arctig wedi cymryd drosodd ein talaith a llawer o daleithiau eraill ledled y genedl."

Ychwanegodd fod disgwyl i'r amodau "creulon" ddod â'r cyfnod oer hiraf a'r cwymp eira uchaf ers blynyddoedd.

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.