Elfyn Evans yn gorffen yn ail yn Rali Monte-Carlo
Fe ddaeth Elfyn Evans yn ail yn rali gyntaf y tymor Pencampwriaeth Rali’r Byd ym Monte-Carlo dros y penwythnos.
Fe orffennodd y gŵr o Ddinas Mawddwy, a’i gyd-yrrwr Scott Martin, 51.8 eiliad y tu ôl i’r enillydd Peter Solberg ar ddiwedd “penwythnos heriol”.
Fe ddaeth pencampwr y llynedd, Sebastian Ogier, yn drydydd, i sicrhau mai gyrwyr y tîm Toyota Gazoo gipiodd pob safle ar y podiwm.
Gyda’r tywydd gaeafol yn creu amodau heriol i bawb, roedd hwn yn ddechrau cadarn i Evans wrth iddo unwaith eto geisio sicrhau pencampwriaeth y byd am y tro cyntaf yn ei yrfa. Llynedd fe gollodd i Ogier yn rali olaf y tymor.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2015444516400980424?s=20
“Mae’n ganlyniad ffantastig i’r tîm, llongyfarchiadau enfawr i Peter," meddai Evans.
"Wrth gwrs byddai wedi bod yn neis i frwydro am y fuddugoliaeth, ond doedd gennym ni ddim beth oedd angen i gystadlu hefo nhw'r penwythnos hwn.
“Hwn yn sicr oedd y Rali Monte-Carlo anoddaf yn fy ngyrfa. Hyd yn oed heddiw, doedd yna ddim saib i'r heriau, ond mae gorffen hefo cyfanswm pwyntiau da ar ddiwedd dydd Sul yn dda i ni.”
Bydd y rali nesaf yn cael ei chynnal yn Sweden ar benwythnos Chwefror 12-15.