Tirfeddianwyr yn cytuno i gwmni peilonau gael mynediad i'w tir
Mae tirfeddianwyr oedd yn gwrthod yr hawl i gwmni sydd eisiau adeiladu llwybr o beilonau yn Nyffryn Teifi i fynd i mewn i'w tir bellach wedi cytuno i roi mynediad.
Ddechrau'r mis, roedd cwmni Green GEN Cymru sydd yn bwriadu codi milltiroedd o beilonau drwy gefn gwlad Cymru wedi cadarnhau eu bod yn mynd â thirfeddianwyr i'r llys.
Dywedodd cwmni Green GEN Cymru wrth Newyddion S4C ar y pryd bod 11 gwrandawiad llys wedi eu cadarnhau ar ôl i berchnogion tir wrthod caniatâd i'w swyddogion gael mynediad i'w tir.
Mae tri chynllun arfaethedig gan y cwmni, gyda phob un yn golygu codi peilonau ar hyd milltiroedd o dir: Tywi-Teifi; Tywi-Wysg a Fyrnwy-Frankton.
Cafodd gwrandawiad ei gynnal ar 7 Ebrill yn erbyn rhai teuluoedd yn Nyffryn Tywi a oedd yn gwrthod mynediad iddyn nhw.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Green GEN Cymru eu bod nhw'n ceisio gweithio yn gadarnhaol gydag unigolion a chymunedau, a bod ganddyn nhw hawl cyfreithiol i gael mynediad at dir.
Wedi'r penderfyniad ddydd Mawrth, mae’r cwmni wedi dweud eu bod yn “falch” eu bod nhw wedi llwyddo i ddod i gytundeb gyda’r perchnogion tir.