Russell George yn rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd Ceidwadol
Mae Russell George, yr aelod Ceidwadol o'r Senedd sydd wedi ei gyhuddo o droseddau betio wedi rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd.
Mae Russell George yn un o 15 o bobl sydd wedi cael eu cyhuddo gan y Comisiwn Hapchwarae o droseddau betio yn ymwneud â dyddiad yr Etholiad Cyffredinol diwethaf yn San Steffan.
Cafodd Mr George ei ddewis yn gynharach y mis hwn i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd newydd Gwynedd Maldwyn yn etholiad y Senedd yn 2026.
Ond mae e bellach wedi dweud ei fod yn tynnu'n ôl o restr y Ceidwadwyr.
Mewn neges ar ei gyfrif cymdeithasol, dywedodd ei fod wedi cael syndod ar ôl cael gwybod gan y Comisiwn Hapchwarae ei fod yn wynebu cyhuddiadau o dwyllo.
"I fod yn glir, dydw i erioed wedi twyllo", meddai.
"Fodd bynnag, oherwydd penderfyniad y Comiswn Hapchwarae, a'r hyn fydd yn digwydd nesaf o'r hyn y deallaf, mae'n debygol o fod yn broses hir, a does dim sicrwydd y bydd y mater wedi ei ddatrys erbyn Mai 2026.
"Rwy'n teimlo nad oes gen i ddewis ond tynnu fy enw yn ôl o'r rhestr ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, er mwyn i fi ganolbwyntio ar glirio fy enw.
"Byddaf wrth gwrs yn parhau i wasanaethu bobl Sir Drefaldwyn hyd eithaf fy ngallu."
Mae cyn aelod seneddol Sir Drefaldwyn, Craig Williams a chyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig, Thomas James o Aberhonddu, ymhlith y 15 sydd wedi eu cyhuddo.
Bydd y 15 yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fis Mehefin.