Aildrefnu gêm rygbi Cymru oherwydd angladd Y Pab
Mae gêm Chwe Gwlad y Menywod rhwng Cymru a’r Eidal yn cael ei haildrefnu oherwydd angladd y Pab Ffransis ddydd Sadwrn.
Roedd y ddau dîm rygbi i fod i wynebu’i gilydd yn Parma, Yr Eidal ddydd Sadwrn.
Wedi ei farwolaeth ar ddydd Llun y Pasg, mae'r Fatican wedi cyhoeddi y bydd angladd y Pab yn cael ei gynnal am 10:00 y diwrnod hwnnw.
Nid yw trefnwyr y bencampwriaeth wedi cadarnhau eto pryd, nac ym mhle fydd y gêm yn cael ei chwarae.
Mae Cymru wedi colli pob un o’u pedair gêm yn y bencampwriaeth ac mae’n rhaid iddyn nhw guro’r Eidal er mwyn osgoi gorffen ar waelod y tabl am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae nos Wener a dydd Sul yn cael eu hystyried fel opsiynau ar gyfer aildrefnu’r gêm.
Ond, mae llywodraeth Yr Eidal wedi datgan pum niwrnod o alaru cenedlaethol hyd at yr angladd ddydd Sadwrn.
Pe bai’r gêm yn cael ei chwarae ddydd Gwener, fe fyddai’n golygu bod Cymru’n chwarae ddwywaith o fewn pum niwrnod ar ôl iddyn nhw wynebu Iwerddon ar Sul y Pasg.