Cyhuddo pedwar dyn wedi i e-feiciau gael eu dwyn yn Aberystwyth
Mae pedwar o ddynion wedi eu cyhuddo ar ôl i nifer fawr o e-feiciau gael eu dwyn ar ystad ddiwydiannol ar gyrion Aberystwyth ar 12 Ebrill.
Roedd y beiciau trydan a gafodd eu dwyn ar ystad Glan Yr Afon, Llanbadarn Fawr yn werth tua £150,000.
Mae Gavin Johnson, sy'n 39 oed, Keith Johnson, 32 oed, Gareth Corbett, 36 oed, Wayne Dreisey, 40 oed, wedi eu cyhuddo o gynllwynio bwrgleriaeth.
Mae'r pedwar yn dod o ddinas Birmingham, ac mae nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe.
Mae disgwyl i'r pedwar ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Mai.
Cafodd dyn arall, 33 oed ei arestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad.