Afon Teifi yn bumed ar restr afonydd sydd wedi eu llygru
Mae afon Teifi yn bumed ar restr o afonydd sydd wedi’u llygru fwyaf gan garthffosiaeth yn y DU, yn ôl ffigyrau gan y grŵp ymgyrchu Surfers Against Sewage.
Mae Afon Teifi, sy'n llifo ger ffîniau Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, wedi symud o’r nawfed safle’r llynedd, i'r pumed eleni.
Cafodd carthffosiaeth ei ollwng 2,232 o weithiau i'r afon yn 2024.
Cafodd afonydd eraill yn y gorllewin eu llygru hefyd gyda 953 achos yn Afon Cleddau, Sir Benfro, a 347 achos yn Afon Nanhyfer, hefyd yn Sir Benfro.
'Trychinebus'
Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mae'r ffigurau newydd yn ‘drychinebus’ i fywyd gwyllt lleol ac mewn perygl o niweidio twristiaeth ac iechyd y cyhoedd.
Dywedodd Sandra Jervis, eu hymgeisydd dros Geredigion Penfro, fod Dŵr Cymru wedi bod yn “codi biliau cwsmeriaid ac yn dosbarthu taliadau bonws chwerthinllyd o fawr i’w swyddogion gweithredol”.
“A hynny i gyd tra eu bod yn un o lygrwyr gwaethaf y DU.
“Mae ein hafonydd a’n moroedd yn hanfodol i’n bywyd gwyllt, ein diwylliant, a’n heconomi - yn enwedig twristiaeth - ac maen nhw’n haeddu cael eu gwarchod yn llawer gwell,” meddai.
Buddsoddiadau
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn buddsoddi ”mwy na £20 miliwn” i ailddatblygu gwaith Trin Dŵr Gwastraff Aberteifi.
“Ochr yn ochr â hyn rydym yn buddsoddi £5m ar dri safle arall ar hyd Afon Teifi i wella ansawdd dŵr afonydd” ychwanegodd.
Dywedodd mai’r prif reswm dros y broblem yn Afon Teifi oedd llygredd ffosffad, a bod 66% o’r llwyth llygru hwnnw wedi dod o ddefnydd tir ac amaethyddiaeth.
Ychwanegodd bod 30% yn dod o weithfeydd trin a daw 3% o orlifau stormydd.
“Fel gwlad ar ochr orllewinol y DU, mae gennym rai o’r lefelau uchaf o law. Po fwyaf o law, y mwyaf o weithiau y bydd y system garthffosiaeth yn llawn a bydd yn gollwng.”
Ychwanegodd bod gan Gymru “rai o’r dyfroedd ymdrochi gorau yn y DU ac mae 44% o’n hafonydd yng Nghymru mewn statws ecolegol da o gymharu ag 14% yn Lloegr.”
“Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn buddsoddi £2.5bn ar brosiectau i wella’r amgylchedd, gan gynnwys £889m ar ymchwilio i orlifau stormydd a’u gwella.”