Newyddion S4C

Ymchwiliad i farwolaeth Dewi y dolffin ar ôl dod o hyd iddo ar draeth ym Môn

dolffin môn.jpg

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i farwolaeth dolffin o'r enw Dewi a gafodd ei ddarganfod ar draeth ym Môn. 

Derbyniodd y sefydliad Monitro Amgylcheddol Morol nifer o alwadau gan drigolion lleol yr wythnos diwethaf yn adrodd am ddolffin trwyn potel (bottlenose) ar draeth ger Rhosneigr. 

Roedd modd i'r tîm ei adnabod yn sgil y marciau ar ei asgell ddorsal fel Dewi, neu 'Gandalf' yn Seasneg, dolffin a oedd yn aelod o boblogaeth y dolffiniaid ym Mae Ceredigion. 

Dywedodd y corff Prydeinig mai "anaml oedden nhw'n cael y cyfle i ymchwilio i farwolaeth dolffin trwyn potel, yn enwedig un a oedd ond wedi bod yn farw am 24-48 awr yn unig". 

Roedd y dolffin yn wryw a oedd yn mesur 3.29m o hyd, ac roedd yn un o'r rhai trymaf i'r sefyliad ymchwilio iddo, gyda phwysau o 510kg. 

Nid oedd ganddo unrhyw anafiadau amlwg a'r gred yw ei fod yn ddolffin iach. 

Image
Dannedd Dewi y dolffin
Dannedd Dewi y dolffin

Profion

Cafodd y dolffin ei drosglwyddo i Brifysgol Lerpwl lle y cafodd archwiliad post-mortem.

Dangosodd yr archwiliad fod ganddo ddau rwystr yn ei goluddion, ac eu bod nhw wedi achosi i'r coluddion hollti, ac mai dyma oedd achos mwyaf tebygol y farwolaeth.

Nid yw'r tîm yn sicr o beth yn union ydy'r rhwystrau, ac maen nhw wedi cael eu hanfon i ffwrdd am ymchwiliad pellach.

Mae'r tîm ym Mhrifysgol Lerpwl wedi cymryd nifer o samplau o organau eraill y dolffin hefyd, ac fe fyddant yn cael eu hanfon at asiantaethau eraill yn y DU ac Ewrop am ragor o brofion. 

Bydd y profion hyn yn sicrhau nad oedd ffactorau eraill a wnaeth gyfrannu at farwolaeth y dolffin. 

Llun: Sefyliad Monitro Amgylcheddol Morol

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.