Newyddion S4C

Llywodraeth y DU i gyhoeddi manylion am droseddwyr tramor am y tro cyntaf

Carchar

Bydd manylion am droseddwyr tramor sy'n aros i gael eu hanfon o'r DU yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf o dan gynlluniau newydd. 

Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper gyhoeddi rhagor am y cynllun ddydd Mawrth, gyda disgwyl i swyddogion gyhoeddi'r wybodaeth am droseddwyr erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Dylai unrhyw droseddwr o dramor sydd yn cyflawni trosedd ddifrifol wybod y byddant yn wynebu oblygiadau llawn y gyfraith, ac yn gorfod gadael y DU ar y cyfle cynharaf. 

"Ond rydym ni hefyd eisiau sicrhau fod gan y cyhoedd well ymwybyddiaeth am y nifer o droseddwyr sy'n disgwyl i gael eu halltudio, o le maen nhw'n dod a'r troseddau y maen nhw wedi eu cyflawni."

Mae tramorwyr sy'n cael eu dedfrydu i 12 mis neu fwy o garchar yn cael eu halltudio yn awtomatig.

Mae ffynhonellau yn y Llywodraeth wedi mynnu fod y datblygiad ond yn bosib oherwydd fod Ms Cooper wedi gorchymyn ystadegwyr y Swyddfa Gartref i drawsnewid eu systemau.

Daw hyn ar ôl i ystadegwyr egluro mai ansawdd data gwael oedd y rheswm am beidio ag ateb cwestiynau am genedligrwydd troseddwyr tramor.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos fod 19,244 o droseddwyr tramor yn disgwyl i gael eu halltudio ar ddiwedd 2024, sydd yn uwch na 17,907 ym mis Gorffennaf y llynedd a'r ffigwr o 14,640 ar ddiwedd 2022. 

Mae cyfuniad o garcharorion yn cael eu rhyddhau yn gynnar yn sgil gorlenwi ac ansefydlogrwydd gan rai gwledydd ymysg y rhesymau sydd wedi cyfrannu at y nifer o droseddwyr sy'n aros i gael eu halltudio. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.