Newyddion S4C

Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dynes yn ardal Pen-y-bont

Heddlu

Mae dyn 56 oed o’r Pîl ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ar ôl i ddynes 48 oed gael ei darganfod yn farw mewn tŷ yng Nghefn Cribwr.  

Cafodd yr heddlu eu galw i'r cartref ym Mryn Terrace toc wedi 21:15 ddydd Gwener, 18 Ebrill, yn dilyn adroddiadau fod pryderon am les dau berson yno.  

Cafodd dyn 56 oed a oedd yn y cartref ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees: “Rydym yn parhau i gynnal ymchwiliadau i’r farwolaeth, sy’n cael ei thrin fel un amheus, ond ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.”

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r ddynes sydd wedi marw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.