Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar ôl darganfod corff menyw oedd ar goll yng Nghaerdydd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Paria Veisi wedi darganfod ei chorff mewn tŷ ym Mhen-y-lan, Caerdydd.
Mae dyn lleol 41 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth; atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus o gorff marw ac ymosod ar berson gan achosi niwed corfforol.
Mae dynes 48 oed o White City yn Llundain wedi’i chyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus o gorff marw ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn.
Mae’r ddau wedi’u cadw yn y ddalfa tan eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: “Mae hyn yn dod â’n chwilio am Paria i ddiwedd trist a thrasig.
"Bydd teulu Paria, pawb oedd yn ei hadnabod, a’r rhai yn ei chymuned leol, wedi eu tristau a’u brawychu’n fawr gan y datblygiadau diweddaraf hyn.
"Mae swyddogion cyswllt teulu yn parhau i gefnogi teulu Paria.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyflwyno gwybodaeth hyd yma ers lansio ein hapêl. Bydd ditectifs ac ymchwilwyr lleoliadau trosedd yn parhau i weithio yn ardal Pen-y-lan dros yr wythnos nesaf."