Band roc o dde Cymru yn cyrraedd brig y siartiau
Mae band roc o dde Cymru wedi cyrraedd rhif un yn siart albymau swyddogol y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf.
Fe wnaeth y band Those Damn Crows ryddhau eu pedwerydd albwm God Shaped Hole yr wythnos ddiwethaf, gan guro artistiaid fel Sabrina Carpenter i rif un.
Mae'r siart yn seiliedig ar werthiant CDs, lawrlwythiadau a finyl, gan hefyd gynnwys ffrydio.
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y band: "Diolch yn fawr i chi bawb, mae'n hollol wallgof, a allwn ni ddim diolch digon i chi bois.
"Nid dim ond diolch am y foment benodol hon ydyn ni, ond am 10 mlynedd o aros gyda ni."
Ychwanegodd y band: "Rwy’n meddwl mai dyna pam ei fod yn golygu cymaint.
"Nid yw wedi digwydd ar ddechrau ein gyrfa, rydym wedi bod yn gweithio mor galed ers blynyddoedd y tu ôl i’r llenni, ac mae hyn fel gwobr enfawr."
Fe gafodd y band roc ei ffurfio ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2014.
Mae'n cynnwys y canwr Shane Greenhall, y gitaryddion Ian "Shiner" Thomas a David Winchurch, y basydd Lloyd Wood a’r drymiwr Ronnie Huxford.