Cyhoeddi enwau dau o Brydain fu farw mewn damwain car cebl
Mae cyfryngau'r Eidal wedi cyhoeddi enwau'r cwpl o Brydain a gafodd eu lladd mewn damwain car cebl yn y wlad.
Roedd Elaine Margaret Winn a Graeme Derek Winn ymhlith y pedwar a fu farw yn y ddamwain ar gyrion dinas Naples.
Fe wnaeth y cerbyd, a oedd yn cysylltu tref Castellamare di Stabia â chopa mynydd Faito, blymio i'r ddaear brynhawn dydd Iau.
Y gred yw bod weiren y car cebl wedi torri.
Dywedodd perchnogion y car cebl ei fod wedi pasio archwiliad diogelwch bythefnos yn ôl a bod ymchwiliad troseddol wedi ei agor.
Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol - ond nid ydyn nhw wedi cadarnhau enwau'r dioddefwyr.
Roedd adroddiadau cynharach gan gyfryngau'r Eidal yn dweud mai Margaret oedd enw'r ddynes ond y gred yw mai Elaine oedd ei henw.
Bu farw hefyd Carmine Parlato, 59 oed, a dynes o Israel o'r enw Janan Suliman.
Cafodd pumed person, brawd Ms Suliman, ei "anafu’n ddifrifol iawn" yn y ddamwain a’i gludo i’r ysbyty, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.
Roedd yn rhaid i 16 o bobl mewn car cebl arall gael eu hachub yn dilyn y digwyddiad, gyda’r car cebl yn sownd ar y weiren ger troed y mynydd.
Mae car cebl Mount Faito wedi bod yn gweithredu ers 1952.
Bu farw pedwar o bobl mewn damwain debyg ar y weiren ym 1960.