Newyddion S4C

Tudur Owen am 'ysgogi eraill i sgwennu' gyda'i ddrama lwyfan gyntaf

Tudur Owen am 'ysgogi eraill i sgwennu' gyda'i ddrama lwyfan gyntaf

Ag yntau yn perfformio yn ei ddrama lwyfan gyntaf ddechrau Mai, mae'r digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen yn gobeithio ysgogi eraill i fentro i fyd y ddrama am y tro cyntaf. 

Bydd drama lwyfan gyntaf Tudur Owen 'Huw Fyw' yn mynd ar daith o gwmpas Cymru, gan ddechrau yng Nghaernarfon fis nesaf. 

Dyma'r ddrama lwyfan sydd wedi gwerthu gyflymaf yn hanes Theatr Cymru.

A hithau'n 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae'r ddrama yn dilyn hanes cyn-filwr o'r enw Huw Fyw.

"Mae'n stori eithaf syml ar yr olwg gyntaf ond wedyn dwi'n gobeithio fydd pobl yn sylweddoli wedyn bod 'na lot fawr o haenau i'r stori ag i gymeriad Huw.

"Mae'n stori am gymdeithas, am ein cymdeithas gwledig falle, cymdeithas Gymraeg a'r pwysau sydd ar ein cymdeithasau," meddai Tudur Owen wrth Newyddion S4C.

"Ond hefyd mae'n stori bersonol i Huw a'i ffrindiau agos. Ma'i 'di lleoli mewn pentra yng nghefn gwlad Cymru a hefyd mewn cyfnod eitha arbennig - mae o'n gyn-filwr."

'Hollol newydd'

Mae cymeriad Huw wedi bod yn fyw ym mhen Tudur ers sawl blwyddyn erbyn hyn, wedi i'r cymeriad gael ei ddatblygu yn wreiddiol o sioe gomedi gan Tudur a gafodd ei pherfformio yng Ngŵyl Fringe Caeredin. 

"Mae o wedi bod yn fy mhen i ers blynyddoedd a mi ges i wahoddiad gan Theatr Cymru i gynnig syniad a'r cymeriad yma oedd yr un cyntaf nes i feddwl am fyswn i'n gallu falla ei ddatblygu," meddai. 

"Mae'r profiad o'i datblygu o sioe gomedi i'r llwyfan wedi bod yn siwrne hir, fel mynd yn ôl i'r ysgol achos dwi wedi dysgu gymaint gan Steffan Donnelly a Theatr Cymru am sut i ddeud stori ar y llwyfan. 

"Dwi 'di hen arfar deud stori gomedi ag ar deledu a radio, ond mae'r dechneg a'r grefft o'i deud ar lwyfan yn hollol newydd i mi. 

"Ma' hi 'di cymryd dwy flynedd i gyrraedd yr amser yma rŵan o ddatblygu a dysgu ond ma'i 'di bod yn siwrna anodd ar adegau ond dwi mor falch 'mod i wedi neud o erbyn rŵan."

Mae yna sawl elfen wahanol yn rhan o'r ddrama, gan gynnwys ymdrin ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac euogrwydd o oroesi trychineb rhyfel. 

Ychwanegodd Tudur: "O'dd o yn heriol i gael y gwahanol elfennau i blethu efo'i gilydd achos er fod y cymeriad genna fi mewn sioe gomedi yn wreiddiol, ma' 'na lot o bynciau dwys yn cael eu trafod yn y ddrama, PTSD, euogrwydd pobl sy'n goroesi trawma a rhyfel.

"Dwi'n gobeithio yn cyfateb i'r darnau tywyll 'ma, ma' 'na ddarnau fydd yn codi gwên a codi chwerthin sydd yn bwysig mewn unrhyw ddrama. Dwi'n gobeithio fydd pobl ddim yn disgwyl cael jôcs genna i yr holl ffordd drwadd achos dim dyna'r math o sioe fydd hi a fydd pobl yn fy ngweld i mewn ffordd wahanol gobeithio a fydd y drama yn cynnig ambell i sypreis iddyn nhw."

'Ysgogi pobl eraill'

Er ei fod yn brofiadol iawn ar deledu a radio, mae'r syniad o fentro i fyd y ddrama lwyfan wedi bod ar ei feddwl ers dipyn o amser. 

"Mae o'n rywbeth sydd wedi bod ar fy meddwl i ers 'talwm iawn, mae o'n wbath dwi di bod isio'i neud ond 'falle ddim yn teimlo yn ddigon profiadol i neud a wedyn pan ges i'r gwahoddiad i gynnig syniad i ddechra, nes i neidio ar y cyfla achos mae o jest yn gyfla mor gyffrous a dwi mor falch 'mod i wedi neud," meddai. 

"Dwi'n gobeithio neith 'na ddau beth ddigwydd. Dwi'n gobeithio na'i sgwennu fwy ar gyfer theatr a dwi'n gobeithio hefyd neith o ysgogi pobl erill sydd 'falla yn bryderus am neud ond sydd wedi meddwl am fod isio neud dros y blynyddoedd i roi tro arni."

Image
Steffan Donnelly
Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru Steffan Donnelly

Huw Fyw ydy'r ddrama lwyfan sydd wedi gwerthu gyflymaf yn hanes Theatr Cymru, ac mae hyn yn profi bod yna "alw" am ddramâu o'u bath, yn ôl Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru Steffan Donnelly.

Dywedodd: "Mae o yn foment mai Huw Fyw ydy'r ddrama sydd wedi gwerthu gyflymaf yn hanes Theatr Cymru yn enwedig pan ti'n meddwl bod Theatr Cymru bron yn chwarter canrif oed felly 'dan ni'n falch iawn a 'dan ni'n edrych ymlaen at gynulleidfaoedd i weld o fel digwyddiad theatrig mawr.

"Ma'n profi bod 'na alw ar gyfer theatr uchelgeisiol o raddfa ganolig yn yr iaith Gymraeg."

Ychwanegodd Tudur: "Dwi'n dalld fod tocynna' wedi gwerthu yn gyflym, ma' hynny yn rhoi 'chydig bach o hen ofn i mi achos mae o'n rhoi bach o bwysa i ni lwyfannu fo a neud ein gora a hefyd dwi'n poeni achos gobeithio fydd pobl ddim yn dod i weld fi'n neud stand-up achos dim dyna fydd yn digwydd ond wrth gwrs, mae o'n neud i rywun fod yn falch iawn fod pobl isio dod i weld y ddrama. 

"Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn achos dwi yn teimlo neith pobl fwynhau achos ma' 'na gymaint i'r ddrama ma ag ers i mi sgwennu hi, ma'r talent sydd na o fewn Theatr Cymru wedi ychwanegu gymaint o haenau iddi wedyn, ma hi'n weledol yn wbath nes i erioed ddychmygu fysa hi felly mae o'n gyffrous iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.