Cyngor yn ymddiheuro am anfon ymholiad gofal plant at rieni oedd mewn galar
Mae cyngor wedi ymddiheuro ar ôl cysylltu â rhieni oedd mewn profedigaeth gydag ymholiad gofal plant.
Dywedodd Cyngor Sir Caerffili fod camgymeriad technoleg gwybodaeth wedi arwain at y camgymeriad, a’u bod yn cynnig “ymddiheuriadau diffuant” i’r teulu.
Mae adroddiad ar gwynion i'r cyngor yn dangos bod negeseuon testun “cyffredinol” wedi eu hanfon at rieni plant sy’n troi’n ddwy oed, i wirio a ydynt yn gymwys i dderbyn gofal plant am ddim.
“Yn anffodus, anfonwyd y neges testun at rieni oedd wedi colli eu merch” a hynny flwyddyn ynghynt, meddai’r cyngor yn ei adroddiad.
“Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod, er bod nodyn wedi’i osod yn erbyn enw y teulu i sicrhau nad oedd unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â’r plentyn yn cael ei anfon, fe wnaeth camgymeriad o fewn y system technoleg gwybodaeth fethu ag atal y neges destun rhag cyrraedd y rhieni.”
Aeth y cyngor ymlaen i dderbyn y byddai’r digwyddiad wedi bod yn “hynod ofidus” i’r teulu.
Codwyd y mater mewn cyfarfod o bwyllgor llywodraethu’r cyngor, lle anogodd y Cynghorydd Ceri Wright yr awdurdod lleol i “sicrhau bod gwallau fel hyn yn cael eu hatal [ac] na fyddai’n digwydd i bobl eraill”.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Rydym wedi ysgrifennu at y rhieni yn cynnig ein hymddiheuriadau dyfnaf a diffuant am y digwyddiad hynod annifyr hwn.
“Fe wnaeth ymchwiliad ddarganfodfod camgymeriad wedi digwydd o fewn ein system TG a chymerwyd camau ar unwaith i ganfod tarddiad y broblem.”