Newyddion S4C

Vladimir Putin yn cyhoeddi cadoediad byr yn Wcráin

Putin (Llywodraeth Rwsia)

Mae Vladimir Putin wedi cyhoeddi cadoediad byr dros gyfnod y Pasg yn Wcráin.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, cyhoeddodd y Kremlin eu bod yn disgwyl i luoedd Wcráin barchu'r cadoediad, fydd mewn grym tan ddydd Llun.

Dywedodd yr arlywydd yn ei ddatganiad: "Yn cael ei arwain gan ystyriaethau dyngarol, heddiw o 18:00 tan hanner nos o ddydd Sul i ddydd Llun, mae ochr Rwsia yn datgan cadoediad y Pasg. 

"Rwy'n gorchymyn atal pob gweithred filwrol am y cyfnod hwn."

Nid oes ymateb wedi dod o Kyiv i'r cyhoeddiad hyd yma.

Ychwanegodd Mr Putin yn ei ddatganiad: “Ar yr un pryd, rhaid i’n milwyr fod yn barod i ymatal unrhyw darfu posibl o’r cadoediad a chamau i'n cythruddo gan y gelyn, ac unrhyw un o’i weithredoedd ymosodol."

Nid oes unrhyw arwydd hyd yma os bydd y cadoediad yn arwain at drafodaethau heddwch pellach.

Mae'r ymladd yn Wcráin wedi para am dros dair blynedd erbyn hyn, ac mae'r Kremlin dan bwysau i ymrwymo i gytundeb heddwch wedi i'r Arlywydd Donald Trump ddod i rym yn yr UDA ar ddechrau'r flwyddyn.

Ddydd Gwener fe ddywedodd Mr Trump wrth ohebwyr ei fod am weld cytundeb heddwch yn digwydd rhwng Rwsia a Wcráin "yn fuan".

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.