Aaron Ramsey i arwain Caerdydd am weddill y tymor wedi i Riza gael ei ddiswyddo
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi bod Omer Riza wedi ei ddiswyddo fel rheolwr y tîm cyntaf.
Aaron Ramsey fydd yn arwain y Clwb ar gyfer y tair gêm arall o dymor y Bencampwriaeth, gan ddechrau gyda gêm gartref i Oxford United ddydd Llun.
Fe gafodd Caerdydd eu trechu 2-0 yn Sheffield United ddydd Gwener, gan olygu eu bod yn parhau yn safleoedd y cwymp yn y Bencampwriaeth.
Bydd Ramsey yn cael ei gefnogi gan reolwr tîm dan-19 Cymru, Chris Gunter, a'r chwaraewr canol cae Joe Ralls.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd eu bod yn ddiolchgar i Riza am ei waith.
"Hoffem ddiolch i Omer am ei angerdd a’i ymdrech yn ystod ei gyfnod fel rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd," meddai llefarydd.
"Rydym yn dymuno’r gorau iddo ar ei gamau nesaf yn y gêm."