Tân yn achosi difrod i fwyty yn Y Fenni
Mae tân wedi achosi difrod i fwyty yn Y Fenni nos Wener.
Cafodd rhan o fwyty Fire & Fork, sydd y arbenigo mewn coginio ar dân agored, ei ddifrodi.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol nos Wener, dywedodd y perchnogion eu bod yn delio gyda thân yn eu bwyty, ac nad oedd modd ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd.
"Byddai dweud ein bod wedi ein dryllio yn dweud rhy ychydig", meddai'r datganiad.
Dywedodd Heddlu Gwent mewn datganiad: "Mae'r gwasanaethau brys ar hyn o bryd yn delio â thân ar Ffordd Aberhonddu, Y Fenni.
"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y lleoliad. Os ydych yn byw yn lleol, sicrhewch fod pob drws a ffenestr ar gau.
"Mae dargyfeiriadau yn eu lle i sicrhau eich diogelwch. Dewch o hyd i lwybr arall ar gyfer eich taith."