Cyn-Brif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cyngor Conwy

Richard Brunstrom

Mae cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cyngor Conwy. 

Fe wnaeth Mr Brunstrom, 71 oed, ymddeol bron i 13 mlynedd yn ôl, ac roedd yn y penawdau yn aml wrth iddo arwain ymgyrch yr heddlu i gosbi pobl oedd yn gor-yrru. 

Mae bellach wedi mynd â Chyngor Conwy i'r llys mewn ymgais i gael gwared o goed sydd wedi eu chwythu i lawr ac sydd yn rhwystro llwybr cyhoeddus poblogaidd.

Mae'r llwybr serth uwchben pentref Dolgarrog yn Sir Conwy wedi cael ei rwystro ers Storm Darragh daro ar ddiwedd 2024. 

Mae Mr Brunstrom wedi gwneud cais i Lys Ynadon Llandudno, gyda'r achos wedi ei ohirio, i'r awdurdod lleol weithredu er mwyn cael gwared o'r difrod ar y llwybr. 

Wrth gael ei holi y tu allan i'w gartref, fe ddywedodd Mr Brunstrom: "Rydym ni gyd yn gobeithio nad ydy hyn yn gorffen gyda gwrandawiad sydd wedi ei herio. Yr hyn yr ydym ni eisiau ydy bod y llwybr yn cael ei ail-agor.

"Mae yna lot o gefnogaeth gan y gymuned leol i sicrhau fod hyn yn digwydd. "

Mae'r llwybr yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Cyngor Conwy wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.