
Myfyrwraig Prifysgol Caerdydd yn derbyn triniaeth i dynnu rhan o'i breichiau a'i choesau ar ôl sepsis
Mae myfyrwraig 23 oed o Brifysgol Caerdydd wedi cael llawdriniaeth i dynnu rhan o'i breichiau a'i choesau ar ôl cael haint a wnaeth roi ei bywyd mewn perygl.
Cafodd Lily McGarry, sy'n astudio meddygaeth yng Nghaerdydd, ei derbyn i’r ysbyty ym mis Ionawr 2025, gyda symptomau tebyg i ffliw.
Yn gyflym, fe wnaeth y symptomau ddatblygu i sioc septig.
Cafodd ddiagnosis o septisemia meningococaidd, haint difrifol ac ymosodol.
Tra'n cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, fe wnaeth Lily ddioddef dau ataliad y galon, a threuliodd bythefnos mewn coma.
Fe wnaeth yr haint achosi problemau llif gwaed difrifol, ac fe wnaeth arwain at Lily yn cael llawdriniaeth i fyrhau ei choesau a breichiau yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Nawr mae ei theulu yn ceisio codi arian ar gyfer coesau a breichiau prostheteg, fel y gall Lily ddychwelyd i'r gweithgareddau yr oedd hi'n eu mwynhau.
Cyn ei salwch, roedd yn nofiwr, rhedwr a syrffiwr brwd.
Mae ei theulu'n gobeithio y bydd prostheteg ddatblygedig yn rhoi'r symudedd a'r annibyniaeth iddi ddychwelyd i'r gweithgareddau hyn.
Mae un goes brosthetig yn costio dros £100,000 a hyd yn hyn mae'r teulu wedi codi dros £170,000, gyda dros 4,000 o roddion.
Mae'r teulu hefyd yn cefnogi'r elusen Limb Power, sy'n cefnogi unigolion â nam ar eu breichiau trwy weithgareddau corfforol, chwaraeon a'r celfyddydau.