Teyrngedau i gyn-chwaraewr pêl-droed Wrecsam sydd wedi marw yn 36 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn chwaraewr pêl-droed Wrecsam Joe Thompson sydd wedi marw yn 36 oed.
Cafodd ddiagnosis o ganser am y trydydd tro ym mis Ebrill y llynedd, pum mlynedd wedi iddo ymddeol o chwarae.
Roedd ganddo ganser lymphoma cam bedwar - math o ganser y gwaed.
Chwaraeodd ei unig gêm i Wrecsam yn erbyn Southport yn Nhlws yr FA yn 2014.
Dechreuodd y chwaraewr canol cael ei yrfa fel un o chwaraewyr ieuenctid Manchester United cyn symud i Rochdale, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa.
Bu farw wrth ochr ei deulu yn ei gartref ddydd Iau.
Mewn datganiad dywedodd Rochdale: "Roeddem yn nabod Joe fel pêl-droediwr talentog, ond yn gyflym roeddem wedi dechrau caru ei bersonoliaeth gariadus.
"Roedd yn wynebu pob brwydr yn gryf, ar y cae ac oddi ar y cae. Mae ei daith a'i ysbryd nad oedd modd ei ddinistrio wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb sydd wedi eu cyffwrdd gan ei stori.
"Ond yn fwy na hynny, roedd Joe yn ŵr cariadus i Chantelle ac yn dad gwych i Thailula ac Athena Rae.
"Mae ein meddyliau gyda theulu Joe a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn."
'Ffrind annwyl'
Ychwanegodd Manchester United eu bod nhw'n "hynod drist o glywed am farwolaeth ein ffrind annwyl a chyn-chwaraewr ein hacademi, Joe Thompson."
Cafodd Thompson ei ddiagnosis Hodgkin lymphoma cyntaf yn 2013 ac eto yn 2017.
Ar ôl iddo oroesi'r afiechyd dwywaith, aeth ymlaen i sgorio'r gôl a welodd Rochdale yn osgoi disgyn o Adran Un yn 2018.
Fe wnaeth Thompson ymddeol o chwarae yn 2019 ar ôl gwneud 203 ymddangosiad i Rochdale a dweud ei fod wedi "gwthio ei gorff i'r eithaf".
Chwaraeodd hefyd i Tranmere Rovers, Carlisle United, Southport, Bury a Wrecsam.