Waspi: Dim iawndal i fenywod gafodd eu heffeithio gan newidiadau pensiwn

Waspi

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi na fydd iawndal ar gael i fenywod Waspi gafodd eu heffeithio gan newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth yn y 1950au.

Cafodd menywod oedd yn disgwyl ymddeol wedi iddyn nhw gyrraedd 60 oed wybod yn 2010 y byddai'n rhaid disgwyl yn hirach am eu pensiwn gwladol yn dilyn newidiadau i’r oedran ymddeol.

Daeth y newidiadau mewn ymdrech i sicrhau cydraddoldeb yn yr oedran ymddeol rhwng dynion a menywod, ac erbyn 2018, roedd yr oedran ymddeol ar gyfer menywod wedi cynyddu i 65 oed – yn unol â dynion.

Dywedodd Ann Davies, AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, bod y Blaid Lafur wedi "troi eu cefn" ar fenywod Waspi ac wedi "chwarae gydag emosiynau pobl."

"Dyw ymddiheuriad heb iawndal ddim yn gyfiawnder, ac mae'r menywod yma yn haeddu mwy na geiriau yn unig," meddai.

"Maen nhw'n haeddu iawndal teg i unioni'r anghyfiawnder hwn unwaith ac am byth."

'Dirmyg llwyr'

Fe wnaeth adroddiad gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yn 2024 awgrymu y gallai iawndal rhwng £1,000 a £2,950 fod yn briodol i bob un o'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y ffordd y cyfathrebwyd newidiadau i bensiwn y wladwriaeth.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn, Pat McFadden fyddai cynllun iawndal "ddim yn ymarferol", gyda chynllun ehangach yn costio hyd at £10.3 biliwn.

Yn ôl ymgyrchwyr Waspi, cafodd miloedd o fenywod eu heffeithio’n ariannol gan y newidiadau gan nad oeddent wedi cael eu rhybuddio amdanynt o flaen llaw – a hynny yn achosi tlodi i rai.

Cyhuddodd cadeirydd Waspi, Angela Madden, Llywodraeth y DU o drin menywod a gafodd eu geni yn yr 1950au gyda "dirmyg llwyr".

“Mae Waspi yn ceisio cyngor cyfreithiol ac mae pob opsiwn yn parhau ar y bwrdd," meddai. 

"Rydym yn barod i ddilyn pob llwybr yn San Steffan ac yn y llysoedd i sicrhau’r cyfiawnder sydd wedi’i wrthod mor gywilyddus."

Mewn datganiad dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn, Pat Fadden: “Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y mwyafrif helaeth o fenywod cafodd eu geni yn y 1950au eisoes yn gwybod bod oedran pensiwn y wladwriaeth yn codi diolch i ystod eang o wybodaeth gyhoeddus, gan gynnwys trwy daflenni, ymgyrchoedd addysg, gwybodaeth mewn meddygfeydd teulu, ar y teledu, radio, y sinema ac ar-lein.

“I dalu iawndal yn benodol i'r menywod hynny a ddioddefodd anghyfiawnder, byddai angen cynllun a allai wirio amgylchiadau unigol miliynau o fenywod yn ddibynadwy."

Ni fyddai cynllun cyfradd ehangach “yn gywir nac yn deg, o ystyried y byddai’n cael ei dalu i’r mwyafrif helaeth a oedd yn ymwybodol o’r newidiadau”, ychwanegodd.

Daeth Llywodraeth San Steffan i’r un casgliad cafodd ei gyhoeddi'n flaenorol gan yr ysgrifennydd gwladol ar y pryd, Liz Kendall, ym mis Rhagfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.