Aberystwyth: Cyflwyno cynllun i ailddatblygu stadiwm Coedlan y Parc
Mae cynlluniau i ailddatblygu stadiwm Clwb Pêl-droed Aberystwyth, Coedlan y Parc, wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Ceredigion.
Byddai'r cynlluniau yn cynnwys eisteddle newydd ac ystafelloedd newydd i'r clwb.
Hefyd bydd tŷ clwb (clubhouse) newydd yn cael ei adeiladu yn ogystal â gwaith atgyweirio ar eisteddleoedd sydd yn y stadiwm yn barod, meddai'r cynllunwyr JMS Planning and Development.
"Mae’r cynllun yn cynnig gwelliannau mawr i hygyrchedd y safle drwy ddarparu mynediad heb risiau ledled y safle. Yn yr un modd, mae’r cynllun yn cyflwyno gwelliannau i blatfform gwylio pwrpasol ar gyfer pobl lai abl," meddai'r datblygwyr.
“Mae’r prif eisteddle a’r ystafelloedd newid presennol mewn cyflwr o ddirywiad ac mae angen buddsoddiad sylweddol ynddynt.
"Felly, rydym yn cynnig cyfleusterau modern ac addas er mwyn adfywio’r safle a fydd yn gwella darpariaeth i'r gymuned.
“Mae’r datblygiad hefyd yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i chwaraewyr a swyddogion gwrywaidd a benywaidd, a fydd yn elwa o gyfleusterau newid ar wahân a modern, yn unol â gofynion Cymdeithas Bêl-droed Cymru.”
Daw'r cynllun wedi cyfnod o ymgynghori gyda'r cyhoedd.
Mae Aberystwyth yn un o glybiau hynaf Cymru, ac yn un o'r clybiau oedd yn rhan o Uwch Gynghrair Cymru pan gafodd eu ffurfio.
Eleni roedd y clwb wedi disgyn o'r gynghrair honno am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae cae Coedlan y Parc yn un artiffisial, ac yn cael ei ddefnyddio gan nifer o dimoedd eraill yr ardal.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru