Newyddion S4C

Caffi yng Nghwm Cynon yn 'hafan naturiol' i ddysgwyr Cymraeg

20/04/2025

Caffi yng Nghwm Cynon yn 'hafan naturiol' i ddysgwyr Cymraeg

Mae dysgwr Cymraeg sy’n berchen ar gaffi dwyieithog yn dweud mai ei nod yw creu hafan yno i bobl gael “clywed” ac “ymarfer” eu defnydd o’r iaith dan amgylchiadau “naturiol.”

Fe agorodd Karin Mear a’i gŵr Nigel Evans o Aberdâr, ddrysau Helo Coffi yng Nghwm Cynon ychydig dros flwyddyn yn ôl ar ôl treulio rhan helaeth o’u bywydau yn Llundain ac yna yn Aberhonddu. 

Bellach, mae eu caffi ym Marchnad Aberdâr yn lle y gall Cymry Cymraeg ddod i ddefnyddio’r iaith gyda staff a chwsmeriaid. 

A hithau’n disgrifio ei hun fel dysgwr, dywedodd Karin Mear mai “dathlu Cymraeg yn y gymuned” oedd ei nod pan agorodd hi a’i gŵr y caffi. 

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n “llwyddiannus” gan fod siaradwyr a dysgwyr Cymraeg bellach yn ymweld â Helo Coffi “bob dydd.”

“Fi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers o’n i yn yr ysgol ond pan symudais i ffwrdd, dwi wedi colli llawer o eirfa,” esboniodd Ms Mear wrth siarad â Newyddion S4C. 

“Felly o’n i’n meddwl y bydd yn dda i gael lle i bobl yn anffurfiol a roedd yn gyfle hefyd i fi ymarfer fy Cymraeg – a fi wedi gwella.” 

Image
Helo Coffi

'Naturiol'

Mae lleoliad Helo Coffi y tu fewn i’r farchnad hefyd yn greiddiol i’r caffi, medd Ms Mear. 

Fe allai pobl sy’n cerdded heibio’r siop, sy’n agored i weddill y farchnad, glywed cwsmeriaid yn sgwrsio ac archebu pethau yn y Gymraeg o ganlyniad, meddai. 

Yn wreiddiol o Gwmaman a bellach yn byw yn Llwydcoed ger tref Aberdâr, mae’r hanesydd a’r awdur David Leslie Davies wedi bod yn gwsmer “ffyddlon” yno ers y dechrau. 

Mae’n ymweld â’r caffi yn rheolaidd gyda’i wraig Jill Escott sy’n dysgu Cymraeg. Dywedodd Mr Davies bod y caffi yn cynnig cyfle i bobl ymarfer eu defnydd o’r iaith mewn sefyllfa “naturiol” y tu hwnt i’r ystafell dosbarth. 

Image
David Leslie Davies
David Leslie Davies

“Er bod twf aruthrol wedi bod yn yr ysgolion Cymraeg, mae’n bwysig bod ‘na gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol," medd Mr Davies.

“A mae’r cyfleoedd yna wedi lleihau wrth i’r hen genhedlaeth fynd. 

“Felly mae’n bwysig, bwysig gal cyfleoedd fel Helo Coffi i roi yn ôl rhyw faint o’r cyfle naturiol i ddefnyddio’r Gymraeg fel agwedd ar fywyd bob dydd.”

'Awyrgylch hapus'

Fel dysgwr, mae Jill Escott yn dweud ei bod yn teimlo’n gyfforddus yn ymarfer ei Chymraeg yn Helo Coffi. 

“Mae’r awyrgylch yma yn hapus,” meddai. “Mae’n gyfeillgar yma felly ‘wi’n hapus i ddod yn trio siarad Cymraeg.” 

Image
Jill Escott
Jill Escott

Mae Alecs Lonan hefyd yn dysgu’r iaith, ag yntau’n gweithio yn y caffi o bryd i’w gilydd. 

Ac er ei fod yn cymryd cyrsiau sylfaen a mynediad at y Gymraeg, mae’n dweud ei fod yn hollbwysig iddo gael rhyw le fel Helo Coffi iddo ymarfer. 

“Dwi’n trio ymarfer pob dydd… ond os dwi ddim yn ymarfer dwi ddim yn cadw yr iaith yn fy meddwl.” 

Image
Alecs Lonan
Alecs Lonan

Mae’r iaith wrth galon caffi Helo Coffi ac mae’r perchnogion yn awyddus i bawb wybod fod ‘na “groeso mawr” iddyn nhw ddod a dathlu’r diwylliant. 

“Mae Cymraeg yn rhan o’r cymuned,” medd Karin Mear. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.