Newyddion S4C

'Mwy angen cael ei wneud' i fynd i'r afael ag agweddau atgas tuag at ferched

17/04/2025

'Mwy angen cael ei wneud' i fynd i'r afael ag agweddau atgas tuag at ferched

"O'n i'n meddwl bo' ni'n deulu oedd yn gwybod bod misogyny yn wrong.

"Fatha rhiant, dw i'n poeni."

Ar ôl edrych drwy ffon ei mab,cafodd y fam yma ei synnu.

"Roedd hogan 'di gofyn cwestiwn digon syml ar y groupchat a phlentyn wedi ateb 'nôl yn dweud 'women, since when do you have a choice?' a tri o hogiau eraill 'di licio hwnna.

“Ti'n gweld sut gall hynny developio i fod yn fwy."

A'r gyfres hon ar Netflix wedi sbarduno sgwrs genedlaethol am sut mae rhai bechgyn a dynion ifanc yn siarad am ferched.

Mae'r gyfres yn codi'r llen ar iaith gudd sy'n cael ei defnyddio gan y to iau, y Gen Z a'r Gen Alpha.

Lliwiau ac emojis mewn sgyrsiau.

"Mae mor bwysig bod rhieni'n gwybod am yr emojis 'ma ac yn monitro ffonau eu plant.

"Gyda geiriau, mae'n hawdd gwybod am be maen nhw'n son ond efo emojis byddai gweld dot coch ddim yn canu alarm bells i riant."

Cyfle i ddisgyblion wylio blas o Adolescence.

Mae ysgolion yn ceisio mynd i'r afael a'r broblem.

Ond beth yw profiad pobl ifanc?

"Roedd ni'n siarad am Andrew Tate a'n so defensive am ei ideals ef ac yn bod yn negyddol tuag at women."

Roedd hwn mewn clwb tu fas i'r ysgol?

"Ie, yn Barri. Ro'n i'n rili shocked.

"Daeth mas a dweud bod Andrew Tate efo fair opinions oedd yn rili weird."

"Mae ffrindiau fi fel defaid yn dilyn be mae pobl yn dweud.

"Falle bo' nhw'n clywed pethau online a chymryd e mewn i ystyriaeth a chytuno efo be maen nhw'n dweud."

"Maent yn cael eu dylanwadu'n hawdd gan y cyfryngau cymdeithasol.

"Maent yn dueddol o ddilyn ei gilydd gan bo' nhw mewn grwpiau agos.

"Os mae un yn credu rhywbeth, mae'n debygol bod y gweddill hefyd."

"Mae'r gwefannau cymdeithasol yn bwerus iawn mewn ffordd negyddol.

"Mae hwnna'n anodd i'w ddadwneud. Mae'n anodd gwybod be maen nhw'n gwneud ar ol 3.05yh.

"Mae angen mwy o arweiniaeth. Dyna be mae'r Dirprwy'n gweithio arno ar hyn o bryd.

"Cynnal y polisiau mewn lle o ran shwt ni'n delio gyda iaith ac ymddygiad misogynistic.

"O ran yr ysgol a'r Llywodraeth, mae angen mwy o input."

Mae'r ysgol hon 'di creu lle i ddisgyblion drafod agweddau dadleuol.

Mae'r gyfres wedi tanio trafodaeth ymysg bobl ifanc yn ymlygu'r heriau o beth yw hi i aeddfedu yn yr 21ain ganrif.

Yn ôl rhai, dyw un gyfres ddim am ddatrys broblem cymhleth a dyrys.

"As a dad, I have not found it easy viewing."

Mae'r gyfres bellach ar gael am ddim i ysgolion ar draws Prydain ar ôl creu argraff ar y Prif Weinidog.

Ond mae angen edrych ar y broblem yn ehangach yn ôl rhai.

"Buaswn i'n ofalus wrth hyrwyddo prif ddadansoddiad Adolescence.

"Does dim lot o dystiolaeth bod ffynonellau ar-lein y Manosphere yn dangos taw dylanwadau traddodiadol teuluol, diwylliannol, sy'n dal i fod y prif ddylanwad ar y fath ymddygiad eithafol.

"Fi'n pryderu bo' ni ddim yn cefnogi ysgolion wrth gofnodi data ac achosion fel hynny.

"Falle bo' nhw'n teimlo bo' nhw am gael eu cosbi wrth recordio, cofnodi a son am y fath ymddygiad."

Wedi hawlio'r penawdau a thanio trafodaeth nawr mae rhieni, athrawon a chenhedlaeth sydd wedi'u magu mewn oes ddigidol am weld newid er gwell.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.