Newyddion S4C

Cyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor wedi marw ar ôl i gar daro cerddwyr

Dominyka Jonikaite

Mae un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi marw ar ôl i gar ei tharo a dwy aelod arall o'i theulu ger parc hamdden.

Bu farw Dominyka Jonikaite, 23 oed, yn dilyn y gwrthdrawiad yn Crawley, Sussex, ar ddydd Sadwrn 12 Ebrill.

Cafodd ei chwaer sy'n 12 oed a’u cyfnither 19 oed eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Cafodd dyn 33 oed o Crawley oedd yn gyrru BMW ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad cyffuriau, yn dilyn y gwrthdrawiad am 20.36.

Mae teulu Ms Jonikaite yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Prif Arolygydd James Davidson o Heddlu Sussex: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r dioddefwyr ar yr adeg anodd hwn a gofynnwn i’r cyhoedd barchu eu hawl i breifatrwydd.

“Hoffwn roi sicrwydd i’r gymuned ein bod wedi arestio rhywun dan amheuaeth yn gyflym mewn cysylltiad â’r digwyddiad trasig hwn, ac mae ein hymholiadau’n parhau i sefydlu’r union amgylchiadau.

“Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Llundain, Crawley, yn union y tu allan i’r parc hamdden. Mae hon yn ardal boblog iawn ac rydym yn annog unrhyw un a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu a ddaliodd unrhyw luniau symudol, camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng perthnasol i ddod ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.