Newyddion S4C

Dyfarniad y Goruchaf Lys ar ddiffiniad 'menyw' yn 'cynnig eglurder'

Goruchaf Lys

Mae cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi dweud bod dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o fenyw mewn cyfraith cydraddoldeb yn golygu na all menywod traws gymryd rhan mewn chwaraeon i ferched bellach, ac mae'n cynnig eglurder mewn sawl maes arall hefyd.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner fod dyfarniad y Goruchaf Lys ddydd Mercher yn “hynod o ganlyniadol” ac wedi dod ag “eglurder” i'r sefyllfa.

Fe wnaeth barnwyr yn y Goruchaf Lys gyhoeddi fod y termau ‘merched’ a ‘rhyw’ yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn cyfeirio at fenywod biolegol a rhywedd fiolegol yn unig. 

Mae'r dyfarniad yn ymwneud ag os dylai rhywun sydd â thystysgrif cydnabod rhywedd (GRC) sy'n cydnabod eu rhyw fel dynes gael eu trin fel dynes o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y DU. 

Dywedodd y Farwnes Falkner y dylai sefydliadau “gymryd gofal” i edrych ar y “dyfarniad darllenadwy iawn” i “ddeall ei fod yn dod ag eglurder, ac yn eu helpu i benderfynu beth ddylen nhw ei wneud”.

Wrth siarad am ystafelloedd newid a thoiledau, dywedodd y Farwnes Falkner: ““Rhaid i wasanaethau un rhyw fel ystafelloedd newid fod yn seiliedig ar ryw biolegol.

“Os caniateir i ddyn ddefnyddio gwasanaeth neu gyfleuster i fenywod yn unig, nid yw’n un rhyw mwyach, mae’n dod yn ofod rhyw cymysg.”

Ychwanegodd nad oes cyfraith yn atal sefydliadau rhag creu gofod ychwanegol, fel toiledau neu ystafelloedd unrhyw ryw.

Awgrymodd y dylai sefydliadau hawliau traws “fod yn defnyddio eu pwerau eiriolaeth i ofyn am y trydydd gofod hwnnw.

“Rwy’n meddwl bod y gyfraith yn gwbl glir” meddai, “os yw darparwr gwasanaeth yn dweud eu bod yn cynnig toiled i fenywod, yna ni ddylai pobl traws fod yn defnyddio’r cyfleuster un rhyw hwnnw”.

Dywedodd ei fod yn “glir” fod y dyfarniad yn golygu na all menywod trawsryweddol gymryd rhan mewn chwaraeon i ferched chwaith.

Mae grwpiau sydd yn ymgyrchu dros hawliau trawsrywedd wedi lleisio eu siom gyda dyfarniad y Goruchaf Lys, gan ddweud ei fod yn fyguthiad i'w hawliau.

Prif Lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.