Newyddion S4C

Dedfrydu dau o Geredigion am droseddau yn erbyn moch daear

Mochyn daear

Mae dau ddyn o Geredigion wedi eu dedfrydu am droseddau yn erbyn moch daear, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed Powys a'r RSPCA.

Cafodd Siôn Davis a Gwynli Edwards ddedfryd o 16 mis o garchar wedi ei ohirio mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher.

Gorchmynnwyd Siôn Davis i gyflawni 250 awr o waith cymunedol di-dâl a gorchmynnwyd y ddau i dalu costau o £4,960.

Roedd Davis wedi ei gyhuddo o ymyrryd â set moch daear, defnyddio arf saethu i ladd mochyn daear, a lladd mochyn daear yn fwriadol. 

Roedd Edwards wedi ei gyhuddo o ymyrryd â set moch daear a meddu ar fochyn daear marw.

Plediodd y ddau'n euog i'r holl gyhuddiadau.

Roedd y ddau ddyn wedi saethu mochyn daear yn farw cyn llusgo ei gorff a’i daflu i mewn i gors gyfagos ym mis Ionawr y llynedd.

Ymddwyn yn amheus

Ar brynhawn ddydd Sadwrn 6 Ionawr 2024, hysbyswyd yr RSPCA am bryder ynghylch gweithgaredd amheus a oedd yn digwydd ar lechwedd yn ardal Esgairdawe, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd tyst allweddol yn yr achos wrth yr RSPCA ei bod nhw wedi gweld grŵp o unigolion yn ymddwyn yn amheus o gwmpas set moch daear ger ei chartref.

Gwelodd y ddynes y grŵp yn palu i mewn i’r set moch daear cyn gweld dyn yn llusgo anifail trwm i lawr y rhiw a’i daflu dros ffens i mewn i gors.

Adroddodd hefyd ei bod hi wedi gweld dyn arall yn cario daeargi â gwaed ar ei goesau mewn un fraich, a dryll yn y llall.

Casglodd yr RSPCA dystiolaeth o’r lleoliad, gan gynnwys corff marw mochyn daear a oedd newydd ei anafu.

Hysbyswyd Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys am y digwyddiad, a chadarnhaodd archwiliad pellach o’r mochyn daear marw bod yr anifail wedi’i saethu’n farw. 

Cafodd y ddau oedd dan amheuaeth eu hadnabod, a rhoddwyd cynlluniau ar waith i gynnal arestiadau yn ystod diwrnod o weithredu ar ddydd Mawrth 9 Ebrill 2024.

Arestio

Cafodd Siôn Davis a Gwynli Edwards eu harestio yn eu cartrefi ar amheuaeth o achosi dioddefaint diangen i gŵn, ymyrryd â setiau moch daear, a bod â mochyn daear marw yn eu meddiant.

Daeth archwiliadau eiddo pellach o hyd i gyfanswm o naw arf saethu, gan gynnwys dryll y credwyd ei fod wedi’i ddefnyddio i ladd y mochyn daear yn anghyfreithlon. 

Yn ogystal, daethpwyd o hyd i’r beic cwad a welwyd gan y tyst mewn un eiddo, ynghyd ag eitemau sy’n gysylltiedig â hela daeargwn, gan gynnwys coleri radio cŵn, bariau T, rhwydi, a rhawiau.

Dywedodd Paul Roberts o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys: "Mae’r achos hwn yn atgyfnerthu’r neges y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu o dan y bartneriaeth Cymru gyfan ar gyfer troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, i warchod y bywyd gwyllt bregus o fewn ein hardal heddlu, ac yn erlid y rhai sy’n bwriadu eu niweidio.”

Dywedodd Ashleigh Jones o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys: “Mae canlyniad heddiw’n dangos na fydd ymddygiad milain a chreulon yn erbyn anifeiliaid diniwed a diamddiffyn yn cael ei oddef. Rwyf eisiau canmol y tyst cychwynnol am ei rhagweithgarwch o ran cysylltu â’r RSPCA i adrodd am ei phryderon, a arweiniodd yn y pen draw at y ddau drwgdybyn yn wynebu cyfiawnder am eu troseddau heddiw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.