
'Achubiaeth': Galw am fanc llaeth o'r fron sy'n gweithredu'n annibynnol yng Nghymru
Mae angen banc llaeth o’r fron sy'n gweithredu'n annibynnol yng Nghymru, yn ôl cydlynydd yr hwb cyntaf o'i fath yn y wlad.
Cafodd yr hwb llaeth o’r fron gyntaf yng Nghymru ei sefydlu yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ym mis Ionawr 2022.
Bwriad y gwasanaeth yw helpu babanod sy’n wael neu sy’n cael eu geni’n gynnar, gan hefyd gefnogi mamau sydd methu bronfwydo.
Partneriaeth rhwng yr elusen Human Milk Foundation, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe yw'r hwb.
Yn flaenorol roedd ysbytyai yng Nghymru yn derbyn rhoddion llaeth o fanciau dros y ffin yn Lloegr yn unig.
Er bod gan Gymru bellach hwb ei hun, mae’n rhaid cludo'r llaeth dros 200 milltir er mwyn iddo gael ei brosesu yn Sir Hertford.
Mae’r Athro Amy Brown o Brifysgol Abertawe yn dweud bod angen i Gymru gael banc llaeth o’r fron sy’n gweithredu’n annibynnol.
'Achubiaeth'
Un sydd wedi rhoi llaeth o’r fron i’r hwb yw’r cyn-nyrs Gayatri Cook, 44, o Gaerfyrddin.
Ym mis Chwefror 2022, a hithau’n 20 wythnos yn feichiog, fe dorrodd ei braich mewn damwain car.
Er bod ei mab wedi goroesi’r ddamwain, nid oedd hi'n gallu ei godi ac mae hi'n wynebu'r posibilrwydd o golli ei braich.
Dywedodd Gayatri bod gallu rhoi llaeth o’r fron i'r hwb yn y chwe mis wedi’r ddamwain yn "achubiaeth".
"Dwi ddim wir yn teimlo fel ei fam, dwi’n teimlo fel fy mod wedi methu," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ac er fy mod yn gwybod mai fi yw ei fam, a dwi’n gwybod ei fod o’n gwybod mai fi yw ei fam, dwi jyst ddim yn teimlo fel fy mod i go iawn.
"Felly fe wnaeth rhoi llaeth o’r fron roi teimlad hyfryd o bwrpas i mi – fy mod yn gwneud rhywbeth da, nad oeddwn i wedi methu cymaint â hynny."
Ers agor tair blynedd nôl, mae’r hwb yn Abertawe wedi casglu tua 1,500 litr o laeth y fron gan famau o bob cwr o dde Cymru.
Mae tua 60-80 litr o laeth y fron yn cael ei gasglu’n fisol a hynny gan wirfoddolwyr yr elusen Beiciau Gwaed Cymru.
Yna mae'r llaeth yn cael ei anfon i Sir Hertford i gael ei brosesu, cyn cael ei anfon yn ôl i Abertawe.
Mae mamau a babanod yng ngogledd Cymru yn ddibynnol ar fanc llaeth o'r fron yng Nghaer.

Yn ôl yr Athro Brown, cyfarwyddwr y Ganolfan Llaetha, Bwydo Babanod a Chyfieithu ym Mhrifysgol Abertawe, mae angen mynd cam ymhellach a sefydlu banc llaeth o'r fron annibynnol yng Nghymru.
"Mi ddyle Cymru gael ei gwasanaeth ei hun - ni ddylwn ni fod yn dibynnu ar fanciau llaeth yn Lloegr," meddai.
"Mi ddyle ni gael yr opsiwn yng Nghymru achos byddai’n arbed lot fawr o amser a byddai’n galluogi mwy o fenywod i roi llaeth."
Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd mae 'na gyflenwad cyfyngedig o laeth, ac mae’n rhaid iddo fynd i’r bananod mwyaf bregus a'r rhai sy’n cael eu geni’n gynnar.
"Ond y mwyaf o laeth sydd gennym ni, y mwyaf o deuluoedd ydyn ni’n gallu eu cefnogi."

Mae’r Athro Brown yn y broses o wneud cais am gyllid gan sawl sefydliad, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac elusennau amrywiol.
Ond y bwriad yw parhau i gydweithio gyda'r elusen Human Milk Foundation, meddai.
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.
Beth yw manteision llaeth o’r fron?
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud bod llaeth o'r fron yn gallu amddiffyn babanod sy'n cael eu geni'n gynnar rhag heintiau.
Yn ôl Dr Joanna Webb, neonatolegydd ymgonghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae'n gallu bod yn adnodd sy'n "achub bywyd".
"Nid ydych chi'n gallu diystyru pwysigrwydd llaeth o’r fron gan roddwyr wrth ofalu am fabanod cynamserol," meddai.
"O gefnogi mamau newydd yn ystod eu horiau a’u dyddiau cyntaf ar ôl geni tra’u bod nhw’n gwella ac yn cychwyn ar eu taith fwydo, i fod yn ymyriad achub bywyd i fabanod y mae eu mamau yn rhy wael i’w bwydo."
Ychwanegodd: "Mae llaeth gan roddwyr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi nifer o fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar, gan eu helpu i ddechrau bwydo, magu pwysau a goroesi’r uned gofal dwys newyddenedigol."