
Cynnal gweithdy i roi platfform i grëwyr traws Cymreig

Cynnal gweithdy i roi platfform i grëwyr traws Cymreig
Mae gweithdy misol o’r enw Gorwel wedi cychwyn mewn ymdrech i gefnogi crëwyr traws yng Nghaerdydd.
Fis Tachwedd, bydd Caerdydd Creadigol yn dathlu degawd o waith sy’n cynnal rhwydwaith ar gyfer artistiaid ar draws y brifddinas.
Er hyn, fe wnaeth Caerdydd Creadigol weld angen i gefnogi gofod er mwyn hyrwyddo gwaith artistiaid traws yn benodol, trwy gydweithio gyda Lone Worlds, cwmni LHDTC+.
Dywedodd John Evans, Swyddog Digwyddiadau a Phrosiectau Caerdydd Creadigol: "Gyda phenblwydd 10 mlynedd Caerdydd Creadigol yn agosáu, rydym wedi cael sgyrsiau am fwy o ddigwyddiadau cwiar yn y ddinas.
"Gan fy mod yn rhan o'r gymuned hon roedd yn rhywbeth roeddwn i'n angerddol am hwyluso."
Wrth drafod effaith y gweithdy ar y diwylliant creadigol yng Nghaerdydd, dywedodd John:
"Mae'n rhoi cyfle i bobl greadigol traws rannu eu gwaith a'u ffurf o gelf mewn gofod gyda phobl eraill o'r gymuned.
"I bobl eraill sy'n mynychu, mae'n rhoi cyfle iddyn nhw archwilio ffurf gelf nad ydyn nhw'n gwybod amdani.
"Fe wnaethon ni geisio dewis pobl greadigol o wahanol ffurfiau celfyddydol i gynrychioli'r sector creadigol ehangach."

Mae’r gweithdy mwyaf diweddar yn rhoi platfform i Christian M Hey, dyn traws a chyfarwyddwr yn y byd opera, gyda phrofiad o weithio yn rhyngwladol.
Mae Christian yn gobeithio y bydd llwyfan i bobl greadigol traws rannu eu profiadau yn cael effaith gadarnhaol:
"Mae angen i ni wneud mwy i ddweud wrth bobl, 'na, rydych chi'n cynnig persbectif gwych ac unigryw iawn. Dewch i ddangos i ni beth rydych chi'n ei feddwl," eddai Christian.
Mae’r gweithdy nesaf yn digwydd fis Mai, yn Tramshed Tech, yng Nghaerdydd.