Josh Adams yn aros gyda Rygbi Caerdydd
Mae asgellwr Rygbi Caerdydd, Josh Adams, wedi arwyddo cytundeb i aros gyda'r clwb am ddwy flynedd arall.
Roedd cytundeb y gŵr sydd â 61 cap dros Gymru yn dod i ben ar ddiwedd y tymor presennol.
Ond mae'r asgellwr 29 oed wedi penderfynu aros yn y brifddinas am ddau dymor ychwanegol.
Wrth siarad am ei benderfyniad, dywedodd Adams: “Rwy’n hapus iawn i arwyddo’r cytundeb newydd hwn gyda Chaerdydd.
“Mae gen i deulu ifanc ac rydyn ni i gyd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru, ac yn mwynhau bod gartref.
“Dw i wir yn mwynhau’r amgylchedd yma ac rydw i’n hapus iawn yn y clwb. Parc yr Arfau yw’r stadiwm gorau yng Nghymru ac yn enwedig pan fydd wedi gwerthu allan, gallwch chi ddim ei guro."
Daw'r cyhoeddiad wythnos ar ôl i Undeb Rygbi Cymru (URC) gymryd rheolaeth o'r rhanbarth, ar ôl iddo fynd i ddwylo'r gweinyddwyr am gyfnod.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan URC wedi iddi “ddod yn glir” na fyddai perchennog Rygbi Caerdydd, sef Helford Capital, yn gallu cyflawni eu dyletswyddau ariannol bellach.