
‘Trysor’: Prosiect i ddigideiddio llyfr o Gymru sydd bron yn 1,000 oed
Mae fersiwn digidol o “drysor” o lawysgrif a gafodd ei greu bron i 1,000 o flynyddoedd yn ôl yng Nghymru yn cael ei greu yn Iwerddon.
Mae Sallwyr Rhygyfarch yn llawysgrif o lyfr salmau gafodd ei greu yn Eglwys Padarn, yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, yn 1079.
Cafodd y llyfr, sydd wedi ei ysgrifennu â llaw yn Lladin, ei ddefnyddio fel cofnod o seintiau a chalendr o wyliau Cristnogol.
Mae’n un o ddwy lawysgrif 11eg Ganrif o Gymru sydd dal mewn bodolaeth.
Ers sawl canrif, mae’r llyfr wedi bod ym meddiant Coleg y Drindod yn Nulyn, yn rhan o gasgliad o ddogfennau o’r cyfnod canoloesol.
Dywedodd Estelle Gittins, curadur llawysgrifau yn llyfrgell Coleg y Drindod, ei fod yn cael ei ystyried ymhlith yr eitemau pwysicaf yn y casgliad.
“Mae’n berl hyfryd o lawysgrif,” meddai.

“Mae wedi’i ddyddio o gwmpas 1079, mae wedi’i haddurdno’n brydferth ac mae’n fychan iawn. Mae’n llai na lot o lyfrau y buasech chi’n prynu mewn siop lyfrau'r dyddiau yma. Ond mae ganddo tua 159 ffolio dros 300 o dudalennau.
“Mae’n rhan o’r casgliad yr ydym yn ei thrysori’n fawr, ac mae’n eistedd gyda llawysgrifau pwysig eraill o ddyddiad tebyg, fel y Llyfr Kells a Llyfr Durrow, felly mae’n un o’r llawysgrifau mwyaf gwerthfawr yn ein llyfrgell.”
Proses hir
Nawr, mae’r brifysgol yn gweithio i ddigideiddio’r llawysgrif, er mwyn ei wneud ar gael i ymchwilwyr ledled y byd.
“Mae lot fawr o gamau yn y broses o roi rhywbeth fel hyn ar-lein. Dyw e ddim yn digwydd dros nos,” ychwanegodd Ms Gittins.
“Mae’r broses yn gofyn am fewnbwn gan guradwyr, archifwyr, cadwraethwyr er mwyn edrych ar gyflwr y llyfr, ffotograffwyr, peirianwyr systemau, ac ymchwiliwr ôl-doctor. Yn ffodus, mae’r llyfr mewn cyflwr gwych.
“Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi mynediad i unrhyw un at y llyfr, a dyma un o’r esiamplau cynharaf o’r canol oesoedd fyddwn ni wedi digideiddio.
“Wrth i ni ddigideiddio’r llyfrau, rydym yn rhyddhau nhw pan maen nhw’n barod fel bod ymchwilwyr o gwmpas y byd yn gallu edrych arnyn nhw yn syth, ac yn aml ‘da ni’n gweld bod eu digideiddio yn arwain at gynnydd mawr mewn diddordeb a gwaith ymchwil.
Mae 'na lot o fuddion i ddigideiddio, fel lleihau faint mae angen cyffwrdd yn y ddogfen, sydd bron i 1,000 o flynyddoedd oed yn yr achos yma. Rydym yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldebau o warchod y llawysgrifau, a’r gobaith yw y bydd yn aros mewn cyflwr da am o leiaf mil o flynyddoedd eto.”
'Dylanwad Wyddeleg'
Y gred yw bod y Sallwyr wedi cyrraedd Iwerddon gyda chyn Bennaeth (Provost) y Brifysgol, William Beddwll yn y 17eg Ganrif. Daeth i law ei ffrind, cyn Archesgob Iwerddon ac Armagh, James Ussher yn ddiweddarach, a wnaeth adael y llyfr i’r Coleg yn ei ewyllys fel rhan o’i gasgliad academaidd enfawr.
Mae arddull y llyfr yn dangos dylanwad y ddwy wlad Geltaidd ar ei gilydd, yn ôl Ms Gittins. Ond mae'n credu mai yn Nulyn bydd y llawysgrif yn aros.

"Cafodd ei greu yn Llanbadarn Fawr felly byddai’n gysylltiedig â’r esgobaeth honno, a hefyd â Dewi Sant.
"Felly cafodd ei greu ar adeg pan oedd llawer iawn o gysylltiadau gydag Iwerddon â’r eglwys Wyddelig. Felly nid y ffaith ei fod yma yn Nulyn heddiw yw'r unig gysylltiad ag Iwerddon.
"Mae Sallwyr Rhygyfarch yn bendant wedi'i gynhyrchu mewn rhyw fath o arddull Gwyddelig, gyda delweddau o anifeiliaid.
“Felly y cafodd ei greu yng Nghymru, ond gyda'r dylanwad artistig hwn o Iwerddon, sydd yn adlewyrchu'r dylanwad hefyd ar y gymuned ble gafodd ei gynhyrchu.”
Mae'r Sallwyr Rhygyfarch yn cael ei drafod yn y gyfres ddiweddaraf o Cynefin ar S4C. Cliciwch yma i wylio'r bennod.
Lluniau: Coleg y Drindod, Dulyn