Ysbyty iechyd meddwl newydd yn creu 250 o swyddi
Bydd 250 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y Rhyl wrth i ysbyty iechyd meddwl newydd agor yno o fewn yr wythnosau nesaf.
Bydd cwmni gofal iechyd preifat Ty Melyn Ltd yn agor Ysbyty Seren Gobaith ar safle hen swyddfeydd ar Ffordd Brighton. Bydd yn cynnwys lle ar gyfer 62 o gleifion, gyda gofal 24 awr ar eu cyfer.
Mae'r cwmni bellach yn rhedeg pum canolfan yng Nghymru. Mae nhw'n dweud y byddan nhw'n cydweithio'n agos gyda'r gymuned, gan ddefnyddio cyflenwyr lleol. Bydd yr ysbyty newydd yn rhoi cyfle i nifer o gleifion o Gymru gael triniaeth yn nes at adref, medde nhw.
Ond mae un cynhgorydd lleol wedi mynegi pryder am ddiogelwch yn sgil y datblygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Justine Evans: "Rwy'n cydnabod yn llwyr yr angen am adnoddau o'r math fydd yn cael eu cynnig gan Ysbyty Iechyd Meddwl Seren Gobaith, ac yn croesawu'r buddsoddiad a'r swyddi yn lleol.
"Ond mae gen i bryderon am y trefniadau diogelwch o safbwynt cleifion o fewn y ganolfan."
Dywedodd Ms Evans y byddai'n croesawu'r cyfle i ymweld a'r adeilad.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty y bydden nhw'n hapus i wahodd unrhyw un a phryderon i gwrdd a staff.
"Wrth gychwyn ar ein taith, fe fyddwn ni'n elwa'n fawr o gefnogaeth gan gynghorwyr a gwasanaethau leol i herio peth o'r stigma sydd yn anffodus yn gysylltiedig a phobl sy'n derbyn triniaeth a chefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl," meddai.
"Yn naturiol, rydyn ni'n falch iawn o'r ysbyty ac yn edrych ymlaen i groesawu cleifion."