Rwsia a Wcráin: America yn bygwth 'symud ymlaen' o drafodaethau am gadoediad
Rwsia a Wcráin: America yn bygwth 'symud ymlaen' o drafodaethau am gadoediad
Bydd America yn "symud ymlaen" rhag ceisio sicrhau cytundeb heddwch rhwng Rwsia a Wcráin os nad yw'r gwledydd yn dod yn agosach at gytuno telerau.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol America, Marco Rubio na fyddai'r wlad yn parhau i geisio hwyluso trafodaethau "am wythnosau a misoedd diddiwedd" a bod gan y wlad "blaenoriaethau eraill i ffocysu arnynt."
Fe wnaeth Rwsia gynnal ymosodiad ar Wcráin yn 2022 ac maent wedi gosod nifer o amodau ar gyfer cadoediad.
Er gwaethaf hyder Trump y gallai'r gwledydd ddod i gytundeb yn gyflym, nid yw'r ymgais i geisio sicrhau cadoediad llawn wedi digwydd eto ac mae America yn rhoi'r bai ar y ddwy wlad.
Wedi cyfarfod rhwng arweinwyr gwledydd Ewrop ym Mharis ddydd Iau i drafod cadoediad, dywedodd Rubio wrth newyddiadurwyr bod angen penderfynu "o fewn rhai dyddiau os ydy cadoediad yn bosib."
"Os dyw hyn ddim mynd i ddigwydd, rydym yn mynd i symud ymlaen," meddai.
Dywedodd Donald Trump cyn iddo ddechrau ei ail gyfnod fel Arlywydd y byddai yn dod a'r rhyfel i ben o fewn 24 awr iddo ddechrau'r swydd.