
Môn: Achub ci o glogwyn ar ôl mynd yn sownd wrth redeg ar ôl oen
Mae ci wedi cael ei achub o glogwyn ym Môn ar ôl mynd yn sownd wrth redeg ar ôl oen.
Cafodd Gwylwyr y Glannau Moelfre a Phenmon ei alw i'r clogwyn ar Draeth Bychan am 11:30 fore Gwener.
Wrth gyrraedd, roedd perchnogion y ci wedi rhoi cymorth i wylwyr y glannau wrth ddod o hyd i union leoliad y ci a'r oen oedd yn sownd ar y clogwyn serth.
Roedd y clogwyn wedi'i orchuddio â choed, canghennau a llwyni.
Wrth i'r timoedd gwylwyr y glannau baratoi i achub y ci, roedd ffarmwr lleol wedi gwneud ei ffordd trwy'r coed a llwyni i achub yr oen oedd wedi ei anafu.
Ond roedd y ci yn sownd ar ddibyn cul oedd allan o afael y ffarmwr.

Dywedodd gwylwyr y glannau bod y ffarmwr wedi dychwelyd i ddangos union leoliad y ci wedi iddo achub yr oen.
"Roeddem wedi ystyried achub y ci o ochr y traeth yn hytrach na'r ochr arall," meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Moelfre.
"Ar ôl clirio llwybr yn y coed a'r llwyni, roedd y tîm wedi cyrraedd y ci, oedd wedi ofni.
"Yn araf bach roeddem wedi ei symud o'r dibyn ac yn defnyddio hen ddarn o raff, creu tennyn oedd yn ein galluogi i gerdded y ci yn ôl i'w pherchnogion."
Diolchodd Gwylwyr y Glannau Moelfre i Wylwyr y Glannau Penmon a'r ffarmwr am eu cymorth wrth achub yr anifeiliaid.