Newyddion S4C

Meithrinfa yn Llangefni'n destun arolwg yn dilyn pryderon

Sêr Bach

Mae meithrinfa yn Llangefni wedi bod yn destun arolwg yn dilyn pryderon sydd wedi codi yno.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod wedi derbyn pryderon am Feithrinfa Sêr Bach yn gynnar ym mis Chwefror eleni.

Dywedodd yr Arolygiaeth eu bod wedi cynnal arolwg yn y feithrinfa ar 13 Chwefror, ac fe fydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

Mae'r feithrinfa ar Barc Bryn Cefni yn y dref yn "feithrinfa breifat gyda phwyslais ar werthoedd teulu a chroeso cyfeillgar i bawb" meddai gwefan y cwmni.

Cafodd ei sefydlu yn 2014, ac mae'n gallu cynnig gwasanaeth i hyd at 55 o blant, o fabanod i blant wyth oed.

Nid oedd perchnogion y feithrinfa am wneud sylw pan gysylltodd Newyddion S4C gyda nhw am ymateb.

Dywedodd cwmni cysylltiadau cyhoeddus sy’n eu cynrychioli na fyddai’n briodol ymateb i unrhyw adroddiad sydd heb ei gyhoeddi eto.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.