Dyn o Sir Gâr oedd ar goll yng Ngwlad Thai 'wedi ei ddarganfod yn holliach'
Mae dyn 26 oed o Sir Gâr oedd ar goll yng Ngwlad Thai wedi ei ddarganfod yn fyw ac yn iach.
Nid oedd teulu Daniel Davies o Lanelli wedi clywed ganddo am dros fis, a'r tro diwethaf iddo gael ei weld oedd ar ynys Koh Phi Phi, sy'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.
Dywedodd ei deulu cyn y newyddion am ei ddarganfod nad oeddynt wedi bod mewn cysylltiad gydag ef ers 13 Mawrth.
Ychwanegodd ffrind Daniel, Lucia Froom yn gynharach yn yr wythnos bod "ei ffôn wedi ei ddiffodd ac nid oes neb wedi clywed ganddo ers wythnosau, sydd yn anarferol iawn."
Ond ddydd Mawrth cafodd Mr Davies ei ddarganfod yn fyw ac yn iach gan yr heddlu yng Ngwlad Thai.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi ei ddarganfod mewn hostel yn Muang yn Krabi.
Ychwanegodd y llu bod Daniel yn "berffaith iawn."
"Rydym yn falch ei fod yn iawn. Rydym yn annog twristiaid i gymryd camau diogelwch er mwyn osgoi sefyllfaoedd fel hyn."