Cynghorwyr Sir Abertawe yn unfrydol eu barn am ddyfodol y Gweilch
Mae Cyngor Sir Abertawe wedi cefnogi cynnig trawsbleidiol yn galw ar Undeb Rygbi Cymru i ailystyried cynllun a allai weld y Gweilch yn colli eu statws fel tîm rygbi rhanbarthol, mewn cyfarfod o'r cyngor nos Iau.
Mae cynghorwyr wedi rhybuddio y byddai unrhyw gam o'r fath yn ddinistriol i'r ddinas, i ranbarth ehangach Bae Abertawe a rygbi Cymru yn gyffredinol.
Mae hyn yn dilyn cadarnhad gan yr undeb eu bod yn bwriadu gwerthu Rygbi Caerdydd i berchnogion y Gweilch, Y11.
Fe gymerodd URC reolaeth o ranbarth y brifddinas y llynedd ar ôl i’r clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Mae’r undeb wedi dweud mai eu bwriad yw cwtogi nifer o ranbarthau Cymru o bedwar i dri.
Mae'n ddatblygiad y mae cynghorwyr yn ofni y gallai arwain at ddiwedd rygbi proffesiynol yn Abertawe.
'Ysgwydd wrth ysgwydd'
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Mae’r Gweilch yn rhan o bwy ydym ni fel dinas a rhanbarth. Byddai eu colli yn taro ein heconomi, ein lles a’n synnwyr o hunaniaeth — a byddai’n amddifadu ein plant a chenedlaethau’r dyfodol o rywbeth gwirioneddol arbennig.
“Yr hyn sydd wedi bod yn hynod ysbrydoledig yw’r ffordd y mae’r gymuned gyfan wedi dod at ei gilydd - mae cyn-chwaraewyr, cefnogwyr ffyddlon, busnesau lleol a thrigolion i gyd yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd y tu ôl i’r Gweilch.
“Mae’r llais cyfunol hwnnw’n bwerus, a heddiw mae’r cyngor wedi ychwanegu ei lais yn uchel ac yn glir.”
Penderfynodd y cynghorwyr yn ffurfiol i annog Undeb Rygbi Cymru i dynnu cynigion yn ôl ar unwaith i dorri timau rhanbarthol proffesiynol o bedwar i dri ac i gefnogi’n llawn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol y Gweilch yn Abertawe.
Fel rhan o'r penderfyniad, dywedodd arweinydd y cyngor y bydd Cyngor Abertawe yn:
- Cefnogi unrhyw gamau rhesymol sy'n ofynnol i sicrhau bod y Gweilch yn parhau i fod yn dîm proffesiynol rhanbarthol wedi'i leoli yn Abertawe, gan gynnwys archwilio opsiynau cyfreithiol priodol os oes angen
- Parhau â'i ymrwymiad i ailddatblygu Sain Helen yn lleoliad rygbi modern sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau hirdymor y Gweilch i ddychwelyd i'r cae
- Cefnogi datblygiad rygbi menywod yn Abertawe
- Ysgrifennu'n ffurfiol at Undeb Rygbi Cymru, y Gweilch, Y11, Rygbi'r Byd a sefydliadau perthnasol eraill yn amlinellu safbwynt y Cyngor ac yn gofyn am gymorth i amddiffyn rygbi rhanbarthol yn Abertawe.
Llun: Rob Stewart