Newyddion S4C

Penodi Delyth Evans yn ddarpar Gadeirydd newydd S4C

Delyth Evans

Mae Delyth Evans wedi ei phenodi'n ddarpar Gadeirydd newydd S4C.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ddydd Mercher.

Fe fydd y penodiad yn cael ei gwblhau'n ffurfiol ar 23 Ebrill pan fydd y darpar Gadeirydd yn ymddangos o flaen Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ar gyfer gwrandawiad cyn penodi.

Yn enedigol o Gaerdydd, aeth Delyth Evans i Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyn-wleidydd

Gyda chefndir mewn newyddiaduraeth, fe dreuliodd gyfnod yn ysgrifennu areithiau gwleidyddol cyn symud i fyd gwleidyddiaeth ei hun yn ddiweddarach.

Roedd yn aelod o’r Cynulliad am dair blynedd rhwng 2000 a 2003, gan wasanaethu fel Dirprwy Weinidog dros y Gymraeg, Materion Gwledig a’r Amgylchedd yn ystod y cyfnod yma. 

Dywedodd Lisa Nandy, Ysgrifennydd Diwylliant y DU: “Dechreuodd Delyth ei gyrfa fel newyddiadurwr darlledu, ac mae ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol S4C yn adlewyrchu dealltwriaeth ddofn o dirlun diwylliannol a chyfryngol Cymru, yn ogystal ag ymrwymiad parhaus i wasanaeth cyhoeddus. 

“Rwy’n falch o’i hargymell ar gyfer rôl y Cadeirydd, lle bydd yn sicr yn hyrwyddwr balch o ddarlledu yn y Gymraeg. Mae hon yn nodi pennod gyffrous i S4C wrth i ni ddatblygu cynlluniau i hybu cyfleoedd gwaith a photensial twf y diwydiannau creadigol yng Nghymru a gweddill y DU.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae gan Delyth hanes gwych ym myd darlledu a chyfoeth o brofiad mewn gwasanaeth cyhoeddus i ddod i rôl Cadeirydd S4C. 

“Mae S4C yn chwarae rhan ganolog yng Nghymru, gan gynnal a hyrwyddo’r Gymraeg a chryfhau ein hunaniaeth a’n diwylliant unigryw. Mae’r sianel yn gonglfaen i’r sector creadigol cryf yng Nghymru sy’n hanfodol ar gyfer twf economaidd.”

Mae Delyth Evans yn olynu'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb a gafodd ei benodi'n Gadeirydd dros dro ar y sianel fis Mawrth 2024.

Dywedodd Mr Bebb ar y pryd nad oedd eisiau bod yn gadeirydd yn llawn amser pan fyddai ei gyfnod yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.    

Image
Canolfan S4C Yr Egin

Cafodd Mr Bebb ei benodi i'r rôl wedi i Rhodri Williams gyhoeddi rai misoedd ynghynt nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn Gadeirydd S4C.

Daeth ymadawiad Rhodri Williams wedi cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.

Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr 2023.

Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

Dechreuodd Geraint Evans yn ei swydd fel Prif Weithredwr S4C fis Ionawr eleni, ar ôl ymuno â S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.

Yn ddiweddarach, daeth yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi'r Sianel.

Wrth iddo ddechrau yn ei swydd fel Prif Weithredwr, dywedodd  bod y "seilie wedi eu rhoi yn eu lle" er mwyn sicrhau na fydd y darlledwr yn mynd drwy gyfnod tebyg eto. 

(Prif Lun gan Yr Urdd)

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.