Newyddion S4C

'Menyw' yn cyfeirio at fenywod biolegol medd dyfarniad y Goruchaf Lys

Goruchaf Lys

Mae'r termau 'merched' a rhyw' yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn cyfeirio at fenywod biolegol a rhywedd fiolegol yn ôl y Goruchaf Lys. 

Daw hyn wedi cyfres o heriau gan ymgyrchwyr For Women Scotland (FWS) dros ddiffiniad "menyw" yng nghyfraith yr Alban.

Dadl FWS yw bod y cyfreithiau ond yn berthnasol i bobl sydd wedi'u geni'n fenywod.

Mae'r ddadl yn ymwneud ag os y dylai rhywun sydd â thystysgrif cydnabod rhywedd (GRC) sy'n cydnabod eu rhyw fel dynes gael eu trin fel dynes o dan Deddf Cydraddoldeb 2010 y DU. 

Mae Llywodraeth yr Alban yn dadlau bod gan bobl drawsryweddol sydd â thystysgrif cydnabod rhywedd hawl i gael eu hamddiffyn gan gyfreithiau sy'n seiliedig ar ryw.

Mewn dyfarniad ddydd Mercher, fe wnaeth y Goruchaf Lys ddyfarnu o blaid ymgyrchwyr FWS. 

Dywedodd yr Arglwydd Hodge, oedd yn dyfarnu gyda'r Arglwyddi Reed a Lloyd-Jones a'r boneddigesau Rose a Simler, mai'r "cwestiwn canolog" ydy sut y mae'r geiriau "menyw" a ''rhyw" yn cael eu diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010. 

"Mae'r termau menyw a rhyw yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at fenyw fiolegol a rhyw biolegol."

Ychwanegodd y dyfarniad fod "cydsyniad rhyw yn ddeuaidd" ond gan rybuddio na ddylai'r dyfarniad gael ei weld fel buddugoliaeth un ochr dros yr un arall. 

Aeth y dyfarniad hefyd ymlaen i ddweud: "Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl trawsryweddol nid yn unig yn erbyn gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd (gender reassignment), ond hefyd yn erbyn gwahaniaethu uniongyrchol a gwahaniaethu anuniongyrchol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.