Rhybudd am amodau gyrru gwael ar ôl llifogydd dros nos
Mae rhybuddion am amodau gyrru gwael ar ôl llifogydd ar rai ffyrdd dros nos.
Dros nos roedd rhai llifogydd ar yr M4 a'r A470 wrth i law ddisgyn ar draws Cymru gyfan.
Dywedodd Traffig Cymru bod amodau gyrru gwael ar y ffyrdd fore Mercher wedi'r llifogydd dros nos.
Mae Pont Hafren yr M48 yn ne Sir Caerloyw wedi cau rhwng cyffordd 1 a 2 ger Cas-gwent oherwydd gwyntoedd cryf.
Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio i'r M4 Pont Tywysog Cymru.
Glaw trwm
Mae asiantaeth National Highways yn rhybuddio gyrwyr i gynllunio eu taith o flaen llaw fore Mercher.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym i Gymru tan 12:00 ddydd Mercher.
Mae disgwyl i gyfnodau o law trwm a chyson i ymledu o'r gogledd, gan symud ar draws y wlad, gyda rhwng 20 a 40mm o law yn debygol o ddisgyn.
Gall rhai ardaloedd brofi rhwng 50 a 7am 5mm o law yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi llifogydd, gydag oedi yn bosibl i drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.