Cynllun iaith ysgolion Gwynedd 'ddim yn mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio athrawon'
Fe allai cynlluniau Cyngor Gwynedd i leihau'r defnydd o Saesneg yn ysgolion yr ardal waethygu'r "argyfwng" o recriwtio athrawon.
Clywodd cyfarfod y cyngor ei fod yn ddigon "anodd" recriwtio staff i weithio yn y sir ar hyn o bryd a bod nifer o athrawon eisoes yn gadael y proffesiwn.
Cafodd y sylwadau eu gwneud mewn dadl dros y polisi drafft newydd fyddai'n gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ysgolion y sir.
Byddai'r newid o dan y polisi drafft yn effeithio'n bennaf ar Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Uwchradd Tywyn, ac Ysgol Ein Harglwyddes, sy'n ysgol gynradd Gatholig ym Mangor.
Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu categoreiddio fel “ysgolion Categori 3T” neu “ysgolion pontio” sy'n symud tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg llawn.
Mae’r Gymraeg eisoes yn brif gyfrwng yng ngweddill y 90+ o sefydliadau addysgol y sir.
Cododd Elise Poulter o'r National Education Union (NEU) bryderon dros hyfforddi, cyllid ac effaith system trochi'r sir wrth drafod y newidiadau.
Fe ofynnodd a fyddai cyrsiau ar gael i athrawon sydd ddim yn dysgu yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Dywedodd Rhys Meredydd Glyn, Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Cyngor Gwynedd y cyngor eu bod yn gweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg i sicrhau y bydd cyrsiau "o bob lefel" yn cael eu darparu i athrawon.
"Os nad yw athro neu athrawes yn gallu dysgu gwersi Mathemateg neu Ffiseg yn llawn yn y Gymraeg, fe allai cyrsiau penodol ar gyfer rheiny fod ar gael," meddai.
Byddai disgyblion sydd ddim yn medru siarad Cymraeg hefyd yn cael eu cyfeirio at system drochi'r cyngor, meddai.
Ychwanegodd Mr Glyn y byddai gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg i'r rhai oedd "ddim yn hyderus" wrth siarad Cymraeg neu oedd yn ddysgwyr Cymraeg newydd trwy'r Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
'Angen darpariaeth'
Dywedodd Ms Poulter ei bod yn ofni nad oedd y mesurau hyn mynd i atal athrawon rhag gadael eu swyddi.
"Dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn realistig," meddai.
"Yn y diwydiant hwn mae gennym ni argyfwng cadw a chyflogi athrawon. Mae'n anodd iawn i gael un neu ddau o athrawon i ymgeisio ar gyfer llawer o swyddi yn y sir ac ar draws Cymru.
"Bydd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar, os ydym am gyrraedd y nod [iaith] hwn. Rydym eisiau athrawon da iawn. Dw i’n meddwl y byddai unrhyw athro neu athrawes sy’n dod yma yn croesawu’r cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl.
“Mae’n rhaid i ni allu cynnig hynny, fel y gallwn ddarparu addysg wych i’n plant yma, ond bydd yn cymryd amser.”
Cytunodd y Cynghorydd Dewi Jones, gan ychwanegu bod recriwtio athrawon yn “broblem gyffredinol”.
“I rai ysgolion bydd yn heriol cyrraedd y 70 y cant hwnnw, ond dyna pam rydym yn cymryd ein hamser,” meddai.