Ŵyn wedi marw mewn ymosodiadau gan gŵn yn y gogledd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ŵyn gael eu lladd mewn dau ymosodiad ar wahân gan gŵn yn y gogledd.
Ar 7 Ebrill cafodd oen ei ladd ar ôl ymosodiad gan gi mewn cae yn Sir y Fflint.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod ci Husky gwyn wedi ymosod a lladd oen mewn cae yn Leadbrook Drive, Oakenholt.
Ychwanegodd y llu bod dyn wedi ei weld yn cerdded gyda'r ci i gyfeiriad Ffordd Pedrog wedi'r digwyddiad.
Bythefnos cyn hynny digwyddodd ymosodiad yn yr un cae, meddai'r heddlu.
Cafodd dyn ei weld yn cerdded yn yr ardal gyda chi Husky lliw brown. Fe wnaeth y ci ladd un oen ac ymosod ar un arall.
Wedi'r digwyddiad, roedd y dyn wedi gosod ei gi ar dennyn a cherdded i gyfeiriad tref Fflint.
'Parhau i ddigwydd'
Mae Matthew Griffiths o Dîm Troseddau Gwledig yr heddlu yn dweud bod ymosodiadau fel y rhain yn parhau i ddigwydd yn aml.
"Er gwaethaf ein gwaith diflino i dynnu sylw at realiti ac effaith ymosodiadau ar dda byw, maen nhw'n parhau i ddigwydd.
“Mae poeni da byw yn creu gofid sylweddol i anifeiliaid, ac yn yr achos hwn cafodd effaith andwyol gan fod rhai wedi eu lladd.
"Nid yw perchnogion y cŵn hyn wedi rhoi gwybod i ni am y digwyddiadau hyn, sydd yn hynod siomedig.
“Os yw eich ci wedi dianc mewn ardal wledig, dylech gysylltu â’r heddlu cyn gynted ag sy'n bosib fel bod modd rhybuddio ffermwyr.
“Rwy’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau hyn i gysylltu â’n tîm ar 101, neu drwy ein gwefan, gan ddyfynnu’r cyfeirnod C049153.”