Trump: America i ‘redeg’ Venezuela ar ôl cipio arlywydd y wlad
Trump: America i ‘redeg’ Venezuela ar ôl cipio arlywydd y wlad
Mae Arlywydd yr UDA Donald Trump wedi dweud y bydd America yn "rhedeg Venezuela" ar ôl iddo orchymyn ymosodiad wnaeth cipio arlywydd y wlad, Nicolás Maduro a'i wraig.
Mae Arlywydd Venezuela wedi cael ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau wedi i Donald Trump gyhoeddi fore Sadwrn ei fod wedi ei gipio o’i wlad.
Fe gyhoeddodd Arlywydd America ei fod wedi “cipio arweinydd [Venezuela], yr Arlywydd Nicolás Maduro” a’i wraig Y Foneddiges Gyntaf Cilia Flores yn dilyn cyfres o ffrwydradau yn Venezuela ddydd Sadwrn.
Cafodd nifer o ffrwydradau eu gweld ym mhrifddinas Venezuela, Caracas bore ddydd Sadwrn, ac fe gafodd taleithiau Miranda, Aragua a La Guaira eu taro gan ymosodiadau hefyd.
Cadarnhaodd Trump mai’r Unol Daleithiau oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau gan ddweud eu bod wedi cipio Maduro a’i wraig a’u cludo nhw o’r wlad.
Dywedodd Trump mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn dydd Sadwrn fod America yn mynd i "redeg Venezuela".
Yn ei gartref ym Mar-a-Lago dywedodd fod ymosodiad o'r "awyr, môr a thir fel nad oes wedi ei weld ers yr Ail Ryfel Byd" wedi cipio Maduro a'r wraig.
Dywedodd: "Rydyn ni'n mynd i redeg y wlad nes y gallwn ni wneud trosglwyddiad cywir, diogel a doeth."
Mae’r Unol Daleithiau yn "barod i gynnal ail ymosodiad a llawer mwy os oes angen i ni wneud hynny" ond "mae'n debyg nad yw'n angenrheidiol", meddai Mr Trump.
Ychwanegodd arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd y bydd cwmnïau olew America yn "mynd i mewn, yn gwario biliynau o ddoleri" ac yn "dechrau gwneud arian i'r wlad" sef Venezuela.
Mae Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau, Pam Bondi, wedi dweud bod Maduro a'i wraig wedi cael eu cyhuddo yn Ardal Ddeheuol Efrog Newydd.
Dywedodd bod Maduro wedi cael ei gyhuddo o sawl trosedd gan gynnwys cynllwynio i fewnforio cocên a chynllwynio i feddiannu gynau peiriant a dyfeisiau dinistriol a’u defnyddio yn erbyn yr Unol Daleithiau.
“Byddant yn fuan yn wynebu holl rym system cyfiawnder America ar dir America, mewn llysoedd America,” meddai.
Ni ddywedodd beth yn union yw’r cyhuddiadau yn erbyn Y Foneddiges Gyntaf Cilia Flores.
'Argyfwng cenedlaethol'
Mae’r awdurdodau yn Venezuela wedi dweud bod yna “argyfwng cenedlaethol” yno, gan ddweud y bydd eu lluoedd milwrol yn ymateb ar unwaith.
Dywedodd Gweinidog Mewnol Venezuela, Diosdado Cabello, ei fod yn annog pobl i ymddiried yn arweinyddiaeth a lluoedd milwrol y wlad.
Mae Arlywydd Colombia, Gustavo Petro, wedi dweud bod milwyr yn cael eu hanfon i ffin Venezuela, ac yn galw ar Sefydliad Gwladwriaethau America (yr OAS) a’r Cenhedloedd Unedig i “gyfarfod ar unwaith”.
Mae arweinwyr Cuba a Chile wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu gydag ymosodiad America, tra bod Prif Weinidog Trinidad a Tobago yn dweud ei bod yn sefyll gyda phobl Venezuela.
'Cipio a'u cludo o'r wlad'
Fe gyhoeddodd yr Arlywydd Trump bod lluoedd yr Unol Daleithiau wedi cipio arweinydd Venezuela ar ei gyfrwng cymdeithasol Truth Social fore Sadwrn.
Dywedodd: “Mae’r Unol Daleithiau wedi cynnal ymosodiad ar raddfa fawr yn llwyddiannus yn erbyn Venezuela a’i harweinydd, yr Arlywydd Nicolás Maduro, sydd — ynghyd â’i wraig — wedi cael eu cipio a’u cludo o’r wlad.”
Ychwanegodd y bydd yna ragor o fanylion am 11.00 amser lleol (16:00 ym Mhrydain) yn dilyn cynhadledd i’r wasg yng nghlwb Mar-a-Lago yn nhalaith Florida.
“Diolch am eich sylw i’r mater hwn! Yr Arlywydd DONALD J. TRUMP,” meddai.
Daeth hynny ar ôl i gyfres o ymosodiadau gael eu cynnal yn Venezuela yn ystod oriau mân y bore.
Pryd ddechreuodd yr ymosodiad?
Cafodd hediadau o’r Unol Daleithiau i Venezuela eu hatal bore ddydd Sadwrn ar ol i Weinyddiaeth Awyrennau Ffederal, neu’r FAA (‘Federal Aviation Administration’), yn yr Unol Daleithiau ddweud bod “gweithrediadau milwrol” yn cymryd lle.
Y gred yw bod y ffrwydradau wedi dechrau yn Venezuela am tua 02:00 (06:00 amser Prydain) fore ddydd Sadwrn.
Roedd awyrennau a delweddau o fwg du yn codi i’w gweld yn y brifddinas Caracas bryd hynny.
Mae Arlywydd America, Donald Trump, eisoes wedi rhybuddio y byddai’n gweithredu ar lawr gwlad yn Venezuela yn sgil tensiynau diweddar.
Mae wedi cyhuddo Arlywydd Nicolás Maduro o hybu troseddau cyffuriau yn America, yn ogystal ag annog mudo i’r wlad.
Mae Arlywydd Nicolás Maduro wedi dweud bod Trump yn ceisio cymryd drosodd tiriogaeth Venezuela drwy geisio cael gafael ar adnoddau olew’r wlad.
Lluniau: Reuters