'Diffygion diogelwch' sgwrsfot oedd yn gyfrifol am luniau ffug o natur rywiol o blant ar X

Elon Musk

Mae sgwrsfot deallusrwydd artiffisial Elon Musk wedi dweud mai "diffygion mesurau diogelwch" oedd yn gyfrifol am "luniau o blant dan oed heb lawer o ddillad" ar blatfform cyfryngau cymdeithasol X.

Dywedodd Grok bod gwelliannau'n cael eu gwneud i atal hyn wedi i nifer o ddefnyddwyr adrodd lluniau ffug o natur rywiol o fenywod a phlant yno.

Mae'r sgwrsfot, sy'n rhan o gwmni xAI Musk, wedi bod yn cynhyrchu'r delweddau yma drwy'r wythnos a hynny mewn ymateb i geisiadau gan ddefnyddwyr.

"Mae achosion ynysig lle mae defnyddwyr wedi gofyn am ac wedi derbyn delweddau AI yn darlunio plant dan oed heb lawer o ddillad," meddai Grok mewn datganiad ar blatfform X ddydd Gwener.

"Mae gan xAI ddiogelwch, ond mae gwelliannau ar waith i rwystro ceisiadau o'r fath yn llwyr.

"Fel y nodwyd, rydym wedi nodi bylchau yn y diogelwch ac rydym yn eu trwsio ar frys - mae CSAM yn anghyfreithlon ac wedi'i wahardd," meddai Grok, gan gyfeirio at Ddeunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol.

Ni wnaeth Grok roi unrhyw fanylion pellach.

'Camdrin digidol'

Un a gafodd ei heffeithio oedd Jess Davies o Aberystwyth.

Dywedodd yr ymgyrchydd hawliau merched ei bod wedi ei thargedu ar ôl iddi feirniadu Grok.

"Mae'r ffaith bod Grok yn dal i greu delweddau anghydsyniol o fenywod yn ddewis. Gallant atal hyn, ond yn lle hynny maent yn normaleiddio camfanteisio ar fenywod," meddai mewn datganiad ar X ddydd Iau.

"Rydw i wedi gweld menywod yn cael eu rhoi mewn safleoedd rhyw, wedi eu noethi, wedi'u gorchuddio â 'donut glaze' a hyd yn oed wedi'u baeddu."

Ychwanegodd Jess, sydd wedi bod yn ymchwilio i dechnoleg deepfake sy'n creu lluniau ffug o natur rywiol, bod hyn yn fath o "gamdrin digidol".

"Mae normaleiddio'r cynnwys niweidiol yma ar blatfform prif ffrwd yn adlewyrchiad pryderus o sut mae casineb at fenywod wedi mynd yn brif ffrwd," meddai.

Mae nifer y delweddau ffug fel hyn wedi lledaenu'n eang ar-lein yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i dechnoleg AI ddatblygu.

Blwyddyn yn ôl cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai creu delweddau ffug o natur rywiol yn dod yn drosedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae'n golygu y gall unrhyw un sydd yn creu delweddau o natur rywiol heb ganiatâd wynebu cofnod troseddol, dirwy neu garchar.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.