Cyfle i ddyn o Wrecsam ennill £180,000 cyn rownd derfynol pencampwriaeth dartiau
Mae gan drydanwr o Wrecsam gyfle i ennill £180,000 ym Mhalas Alexandra cyn rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd nos Sadwrn.
Eleni mae noddwyr y bencampwriaeth, y cwmni betio Paddy Power, yn rhoi cyfle i un person sgorio mwy na 180 gyda 9 darten er mwyn ennill gwobr o £180,000.
Cafodd Curtis Griffiths, 27 oed ei ddewis o fwy na 30,000 o bobl oedd wedi cyfrannu i ymchwil canser y prostad fel rhan o'r ymgyrch Darts of Destiny.
Bydd y Cymro yn cael ei gyflwyno ar y llwyfan gan John McDonald, cyn cerdded ymlaen rai munudau cyn i'r rownd derfynol rhwng Luke Littler a Gian Van Veen ddechrau yn yr 'Ali Pali'.
'Nerfus'
Dechreuodd Curtis chwarae dartiau pan yn 12 oed, ond dywedodd mai eleni oedd y tro cyntaf iddo chwarae o ddifrif.
"Dwi wedi bod yn chwarae ers oeddwn i'n 12. Ond eleni yw'r tro cyntaf i mi wir ddechrau cymryd y gamp o ddifrif a chwarae mewn cystadlaethau.
"Dwi bach yn nerfus ar gyfer yr her, ond gobeithio byddai'n gallu cadw fy mhwyll a chwblhau'r her."
Yno yn ei gefnogi nos Sadwrn fydd ei bartner, ei ffrindiau a'i gyd-chwaraewyr dartiau yng Nghlwb Chwaraeon Gresffordd, lle mae'n chwarae i dîm y clwb.
Hefyd eleni mae cwmni Paddy Power wedi cyfrannu £1,000 am bob sgôr o 180 ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd.