Achos troseddol yn agor yn y Swistir yn erbyn rheolwyr bar ar ôl tân angheuol
Mae rheolwyr bar, lle bu farw 40 o bobl yn dilyn tân, wedi cael eu rhoi dan ymchwiliad troseddol.
Cafodd 119 o bobl eraill eu hanafu yn y tân yn Le Constellation yn Crans-Montana ar Nos Galan, meddai swyddogion.
Mae rheolwyr Le Constellation yn cael eu hamau o gyflawni llofruddiaeth drwy esgeulustod, achosi niwed corfforol drwy esgeulustod a llosgi bwriadol drwy esgeulustod, meddai swyddfa'r erlynwyr yng nghanton Valais mewn datganiad brynhawn Sadwrn.
Gyda llawer o'r rhai gafodd eu hanafu wedi'u hadnabod, mae teuluoedd yn dal i aros am wybodaeth am y rhai sy'n dal ar goll.
Cyrff dwy fenyw o'r Swistir 21 a 16 oed, a dau ddyn o'r Swistir 18 a 16 oed oedd y cyntaf i gael eu hadnabod a'u dychwelyd i'w teuluoedd, meddai'r heddlu.
Yn ôl ymchwiliad rhagarweiniol, achos tebygol y tân oedd gwreichion ar ben poteli siampên yn cael eu cario'n rhy agos at y nenfwd.
Galwodd Arlywydd y Swistir, Guy Parmelin, y digwyddiad yn "un o'r trasiedïau gwaethaf" a brofwyd gan y wlad.
Nid yw manylion pellach am y dioddefwyr gan gynnwys enwau, wedi'u rhyddhau.
Ddydd Gwener, dywedodd yr heddlu fod 113 o'r rhai oedd wedi eu hanafu wedi'u hadnabod, gan gynnwys 71 o ddinasyddion o'r Swistir, 14 o Ffrainc ac 11 o'r Eidal.
Mae llawer o bobl ifanc yn eu harddegau ymhlith y meirw a’r rhai sydd ar goll.

